{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246965.json"},"data":{"type":"petition","id":246965,"attributes":{"action":"Ymchwiliad Cyhoeddus Statudol i fethiannau amlasiantaethol ym maes diogelu a llywodraethu mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru.","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ymchwiliad Cyhoeddus statudol annibynnol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 i arferion o ran adrodd, llywodraethu a diogelu plant o fewn awdurdodau addysg yng Ngogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Betsi Cadwaladr a sefydliadau eraill a enwir yn yr adroddiad \"Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder\". Gyda phwerau i orfodi proses o gasglu tystiolaeth, rhaid i’r Ymchwiliad hwn drafod sut y gwnaeth methiannau systemig ganiatáu i risgiau hysbys a phryderon ynghylch ffiniau gael eu diystyru gan arweinwyr dros ddegawdau.","additional_details":"Mae canfyddiadau diweddar yn datgelu methiannau difrifol o ran diogelu plant ym maes addysg yng Ngogledd Cymru. Datgelodd yr Adolygiad Ymarfer Plant, \"Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder\", fod ysglyfaeth wedi cam-drin plant dros flynyddoedd, o bosibl gan fynd yn ôl i 1979. Cafodd rhybuddion a godwyd yn 2018 eu diystyru gan arweinwyr. Mae materion llywodraethu difrifol yn parhau, gan gynnwys y cwestiwn pam y cafodd yr unigolyn hwn swydd fel pennaeth gweithredol yn 2021 yn dilyn canfyddiad o gamymddwyn gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn 2020.\r\nNododd datgeliadau cyhoeddus hefyd gamdriniaeth systemig hanesyddol yn uned Canolfan Brynffynnon, gan arwain at iawndal yn cael ei dalu i gyn-ddisgyblion.\r\nDdegawdau ar ôl Adroddiad Clywch, mae diffygion amalasiantaethol o ran llywodraethu ac atebolrwydd yn parhau i fod heb eu datrys. Nid oes gan adolygiadau anstatudol bwerau cyfreithiol i orfodi proses o gasglu tystiolaeth. Mae Ymchwiliad Cyhoeddus statudol yn hanfodol i ddatgelu pam y cafodd rhybuddion eu hanwybyddu a sicrhau nad yw arferion diffygiol wedi trosglwyddo i arferion ehangach gan sefydliadau partner. ","state":"open","signature_count":15,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-18T09:28:54.186Z","updated_at":"2026-06-25T22:52:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-25T13:39:50.549Z","closed_at":"2026-12-25T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-18T09:48:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Leena Sarah Farhat","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":15}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":5},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":3},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":2},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":5}],"signatures_by_region":[]}}}