{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246973.json"},"data":{"type":"petition","id":246973,"attributes":{"action":"Comisiynu adolygiad annibynnol i arweinyddiaeth a diwylliant Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.","background":"Mae'r Bwrdd Iechyd wedi wynebu digwyddiadau difrifol dro ar ôl tro sy'n codi pryderon ynghylch arweinyddiaeth a diwylliant. Mae hyn yn cynnwys marwolaeth Dylan Cope yn dilyn “methiant difrifol o ran gofal sylfaenol”, gwallau trychinebus yn y corffdy, defnyddio cit llawfeddygol heb ei sterileiddio, a methiannau mewn adolygiadau allanol lle nododd staff eu bod yn “ofn dod i’r gwaith”. Mae honiadau sylweddol o chwythu'r chwiban, digwyddiadau o ran diogelwch cleifion, a methiannau mewn goruchwylio yn awgrymu diwylliant pryderus sy'n gofyn am waith craffu annibynnol gan y Senedd.","additional_details":"Arweiniodd gwallau trychinebus yn y corffdy at gyrff yn cael eu rhyddhau ar gam, tra bod cleifion yn agored i offer llawfeddygol heb ei sterileiddio, gyda chwythwyr chwiban yn honni bod oedi wrth hysbysu cleifion, a staff yn cael eu hannog i beidio â siarad â'r wasg. Disgrifiodd adolygiad gan Goleg Brenhinol y Meddygon “ddiwylliant anniogel” lle’r oedd meddygon yn teimlo’n “ofn dod i’r gwaith”, ac roedd pryderon yn cael eu hanwybyddu. Yn achos Natalie Dyke, cafodd claf ifanc awtistig a oedd yn agored i niwed ei niweidio yn ystod triniaeth drawmatig a gafodd effaith barhaol; caewyd yr achos i ddechrau heb ei hysbysu a dim ond ar ôl gwaith craffu gan y cyfryngau y datblygodd, gyda honiadau o gofnodion ffug a chanfyddiadau twyll blaenorol yn ymwneud â'r clinigwr dan sylw. Mae pryderon a fynegwyd gan chwythwyr chwiban, gan gynnwys Amy McCrystal, yn tynnu sylw at sut mae staff yn cael eu trin wrth fynegi barn. Mae'r Bwrdd wedi cael ei uwchgyfeirio i Lefel 4 ac wedi'i feirniadu am fethiannau llywodraethu, gan gynnwys goruchwyliaeth wael yng nghontractau eHarley Street, sy'n dynodi pryderon diwylliannol ac arweinyddiaeth systemig.\r\n","state":"open","signature_count":6,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-20T17:09:15.080Z","updated_at":"2026-06-25T17:51:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-25T12:44:51.603Z","closed_at":"2026-12-25T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-20T17:43:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Kayleigh Jones","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":6}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":2},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":1},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}