{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246979.json"},"data":{"type":"petition","id":246979,"attributes":{"action":"Dylid defnyddio Cymru nid Wales fel yr enw swyddogol ar ein gwlad, a defnyddio un enw yn unig ar gyfer ein henwau lleoedd","background":"Nid Wales yw enw ein cenedl. Ystyr Wales yw 'estroniaid' ac fe'i gorfodwyd arnom, ac mae'n adlewyrchu'n wael pwy ydym ni fel pobl.\r\n\r\nA ninnau â Llywodraeth sy'n edrych tuag allan, nawr yw'r amser i ni fynnu ein bwriad ein hunain o ran sut rydym yn cael ein gweld ledled y byd, yn iaith ein cenedl gan ddefnyddio'r enw a ddewiswyd gan ein cenedl.\r\n\r\nNawr hefyd yw'r amser i ni roi'r gorau i ddefnyddio dau enw ar gyfer lleoedd ag enwau Cymraeg dyfnach, hŷn. Gallwn yn synhwyrol gadw rhai enwau ag ystyron hanesyddol deuol a phwysig eraill.","additional_details":"Mae safle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn fach iawn iawn o'i gymharu â'r Alban ac Iwerddon, ond â Llywodraeth newydd mewn grym sy'n edrych tuag allan, mae gennym gyfle i newid hynny.\r\n\r\nMae Twrci a Tsiecia yn enghreifftiau o wledydd sydd wedi newid eu henwau, ac rydym hefyd wedi gweld llwyddiant ein parciau cenedlaethol yn defnyddio enwau Cymraeg ac yn ennill sylw rhyngwladol ehangach.\r\n\r\nCafodd deiseb flaenorol ar y pwnc dros 10,000 o lofnodion ac fe’i hanwybyddwyd gan Lywodraeth Lafur. Roedd y ddeiseb, a grëwyd gan Arfon Jones, yn dweud: Enw sydd wedi ei orfodi ar Gymru yw’r enw ‘Wales’, sydd yn ei hanfod ddim yn air Cymraeg o gwbl.  Mae’r byd i gyd bron yn gwybod am Wales oherwydd ei chysylltiad Seisnig a Lloegr ers 1282.\r\n\r\n\"Nid oes fawr neb yn gwybod am Gymru a bod ganddi iaith a diwylliant unigryw ei hunan sydd yn hollol wahanol i’r gwledydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig.\"\r\nMae gennym gyfle i ailosod, i ailfrandio ac i adnewyddu ein cenedl a'i dinasoedd, ei threfi a’i phentrefi - byddai hyn yn ddechrau hyderus a gobeithiol.","state":"open","signature_count":441,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-23T13:39:08.793Z","updated_at":"2026-06-30T13:47:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-30T07:57:24.252Z","closed_at":"2026-12-30T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-23T13:45:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-30T10:54:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"John Price","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"y-gymraeg","name":"Y Gymraeg"}],"signatures_by_country":[{"name":"Angola","code":"AO","signature_count":1},{"name":"Awstralia","code":"AU","signature_count":1},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":406},{"name":"Gwlad Pwyl","code":"PL","signature_count":1},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":23},{"name":"Tsiecia","code":"CZ","signature_count":1},{"name":"Unol Daleithiau America","code":"US","signature_count":3},{"name":"Ynysoedd Falkland","code":"FK","signature_count":1},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":3},{"name":"Yr Eidal","code":"IT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":18},{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":33},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":20},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":25},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":28},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":39},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":7},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":29},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":13},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":13},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":43},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":25},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":26},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":26},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":22},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":31}],"signatures_by_region":[]}}}