{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246980.json"},"data":{"type":"petition","id":246980,"attributes":{"action":"Cyfraith Georgia ar gyfer tai diogel brys ar gyfer goroeswyr cam-drin risg uchel","background":"Mae Cyfraith Georgia yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin darpariaeth tai i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol risg uchel fel mater o ddiogelu brys, nid fel digartrefedd arferol. Gall menywod sy’n gweithio ac nad ydynt yn hawlio budd-daliadau fod mewn perygl difrifol o hyd, ond maent yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at loches, adleoli diogel a thai blaenoriaeth oherwydd eu bod mewn gwaith. ","additional_details":"Mae’r ddeiseb hon yn seiliedig ar brofiad byw a thystiolaeth ehangach sy’n dangos y gall goroeswyr gael eu gadael mewn perygl pan nad yw systemau tai yn ymateb yn ddigon cyflym i risg hysbys. Ni ddylai menyw sydd wedi’i hasesu fel achos risg uchel gan yr holl wasanaethau - yr heddlu, Cynhadledd Asesu Risg Aml-Asiantaeth, neu wasanaethau Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol – gael ei gadael i aros am fisoedd am ddiogelwch, ei lleoli mewn llety dros dro anniogel, neu ei gwrthod rhag llwybrau ymarferol i ddiogelwch oherwydd ei bod yn gweithio ac nad yw’n hawlio budd-daliadau.\r\n\r\nByddai Cyfraith Georgia yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebion tai mewn achosion o gam-drin risg uchel gael eu trin fel penderfyniadau diogelu brys. Byddai’n cefnogi adleoli ar frys o fewn dyddiau, nid misoedd; symud rhwng awdurdodau lle nad yw lleoliad lleol yn ddiogel; cyfyngiadau ar lety dros dro anaddas; a neilltuo stoc tai cymdeithasol yn benodol ar gyfer goroeswyr risg uchel a symudiadau ymlaen o lochesi.\r\n\r\nNid yw incwm yn atal trais. Nid yw bod mewn gwaith yn lleihau’r risg gan droseddwr. Pan fo risg yn hysbys, nid yw oedi yn niwtral - beth bynnag fo’r statws ariannol.\r\n","state":"open","signature_count":41,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-24T21:32:03.185Z","updated_at":"2026-06-30T22:16:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-30T10:37:25.991Z","closed_at":"2026-12-30T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-24T21:38:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Georgia","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"gofal-cymdeithasol","name":"Gofal Cymdeithasol"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":39},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":1},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":8},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":4},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":19},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":1},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":5}],"signatures_by_region":[]}}}