{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246983.json"},"data":{"type":"petition","id":246983,"attributes":{"action":"Diogelu staff addysg a disgyblion drwy dreialu camerâu a wisgir ar y corff mewn ysgolion yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu cynllun peilot annibynnol ar gyfer camerâu a wisgir ar y corff mewn ysgolion yng Nghymru lle ceir tystiolaeth o drais, cam-drin neu ddigwyddiadau ymddygiadol difrifol. Fel rhan o’r cynllun peilot, dylid asesu a yw camerâu a wisgir ar y corff yn helpu i wella diogelwch, lleihau honiadau ffug, dad-ddwysáu digwyddiadau a chefnogi ymchwiliadau teg, a hynny tra’n gweithredu o dan reolau llym o ran diogelu, diogelu data a phreifatrwydd.\r\n","additional_details":"Mae trais a cham-drin sy’n targedu staff addysg yng Nghymru yn bryder cynyddol. Nododd Ymchwil y Senedd fod awdurdodau lleol Cymru wedi cofnodi 6,446 o ddigwyddiadau treisgar mewn ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24, o’i gymharu â 4,714 yn y flwyddyn flaenorol. Mae arolygon athrawon hefyd yn dangos bod staff ysgolion yn dioddef  lefelau uchel o gam-drin geiriol a chorfforol.\r\nMae'r ddeiseb hon yn berthnasol i’r holl staff rheng flaen ym maes addysg, gan gynnwys athrawon, athrawon cyflenwi, athrawon TAR dan hyfforddiant, cynorthwywyr addysgu, staff ADY, cynorthwywyr cymorth dysgu, goruchwylwyr cyflenwi ac arweinwyr ysgolion.\r\nMae camerâu a wisgir ar y corff eisoes yn cael eu defnyddio gan yr heddlu, staff y GIG a gweithwyr rheng flaen eraill yn y sector cyhoeddus i’w helpu i ddad-ddwysáu sefyllfaoedd o wrthdaro ac er mwyn darparu cofnod gwrthrychol o ddigwyddiadau difrifol. Nid ydym yn gofyn am recordio parhaus, nac am drefniant lle mae pob aelod o staff yn gwisgo camera bob amser.\r\nRydym yn gofyn am gynllun peilot annibynnol gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â mesurau diogelwch priodol, fel bod polisïau yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na barn.","state":"open","signature_count":10,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-25T14:20:35.581Z","updated_at":"2026-06-29T22:33:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-29T13:38:22.783Z","closed_at":"2026-12-29T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-25T15:19:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Dr Sharon Stephens","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":10}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":9}],"signatures_by_region":[]}}}