{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246989.json"},"data":{"type":"petition","id":246989,"attributes":{"action":"Dylid cyflwyno trwyddedu cryfach ar gyfer llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yng Nghymru","background":"Gall llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel gefnogi twristiaeth yng Nghymru, ond defnyddir rhai eiddo mawr ar gyfer digwyddiadau, dathliadau ac arosiadau grŵp sy'n achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro i drigolion cyfagos. Nid yw pwerau cynllunio, pwerau iechyd amgylcheddol na phwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyn o bryd bob amser yn caniatáu i gynghorau weithredu'n effeithiol. Mae fframwaith trwyddedu llety ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn gyfle i roi pwerau cliriach i gynghorau i osod amodau ac i amddiffyn cymunedau.","additional_details":"Ni ddylai trigolion orfod colli cwsg o un penwythnos i’r llall cyn bod gan gynghorau'r grym i weithredu. Ar draws Gogledd Cymru, lleisiwyd pryderon ynghylch llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yn achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro, gan gynnwys ger Maenor yr Hen Ysgol yn Helygain a Maenor Môr y Rhos yn Llandrillo-yn-Rhos.\r\n\r\nMae'r achosion hyn yn tynnu sylw at fwlch ehangach yn y gyfraith. Caiff rhai eiddo eu marchnata ar gyfer arosiadau grwpiau mawr, dathliadau a digwyddiadau, ac mae ynddynt gyfleusterau a all arwain at eu bod yn gweithredu'n debycach i leoliadau preifat na llety gwyliau traddodiadol. Ac eto mae’r cynghorau yn aml yn dibynnu ar bwerau cynllunio, ac ar bwerau o ran sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i ymateb, a hynny ar ôl i'r niwed ddigwydd.\r\n\r\nByddai cyfundrefn drwyddedu gryfach yn darparu'r gallu i bennu amodau clir ymlaen llaw, gan gynnwys cynlluniau rheoli sŵn, rheolaethau ar fannau adloniant tu allan, cael rheolwyr cyfrifol enwebedig a sancsiynau effeithiol pan fydd achosion o ailadrodd aflonyddwch difrifol. Byddai hyn yn amddiffyn trigolion, yn cefnogi gweithredwyr cyfrifol ac yn rhoi hyder i gymunedau y gall y system ymateb cyn i broblemau waethygu.\r\n","state":"open","signature_count":5,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-28T19:14:36.517Z","updated_at":"2026-07-09T07:48:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-08T22:20:36.133Z","closed_at":"2027-01-08T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-28T19:36:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Fran Lister","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cymunedau-a-tai","name":"Cymunedau a Tai"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":5}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":5}],"signatures_by_region":[]}}}