{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246991.json"},"data":{"type":"petition","id":246991,"attributes":{"action":"Dylid gwneud y wisg ysgol yn addas i blant chwarae ynddi: Dylid adolygu'r canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion i ganiatáu gwisg ysgol ar gyfer symud yn gyfforddus i bob disgybl hyd at 16 mlwydd oed.","background":"Mae 11.8% o blant mewn dosbarthiadau Derbyn yng Nghymru yn ordew, ac mae hyn yn codi'n raddol i 26% o oedolion sy’n ordew. Rydyn ni'n gwybod fod hon yn broblem, ac eto rydyn ni'n gwneud i blant, ac yn enwedig pobl ifanc, wisgo dillad cyfyngol sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a chwarae achlysurol drwy gydol y dydd. Yn ychwanegol at hyn, gwyddom fod merched yn tueddu i roi'r gorau i chwaraeon yn eu harddegau ond rydym yn mynnu eu bod yn newid eu dillad yn yr ysgol.","additional_details":"Mae'r elusen Women in Sport yn crybwyll 'rheoli glasoed benywaidd' fel rheswm pam mae merched yn cymryd rhan mewn llai o chwaraeon o lawer yn yr ysgol uwchradd. Mae ysgolion yn mynnu creu rhwystrau i gyfranogiad, fodd bynnag, drwy orfodi plant i newid o flaen eu cyfoedion er mwyn gwneud ymarfer corff, a hynny yn y cyfnod datblygiadol bregus hwn. Gall hyn greu trawma a chysylltiadau negyddol â chwaraeon.\r\n\r\nMae hyn yn effeithio'n negyddol, nid yn unig ar ferched, ond hefyd ar unrhyw blentyn a allai gael trafferth â thrawsnewidiadau neu â symudiadau manwl, fel rhai â gwahaniaethau niwroddatblygiadol.\r\n\r\nMae gwisgo gwisg gyfyngol y tu allan i wersi Addysg Gorfforol a gemau yn arwain at fod disgyblion yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn ystod egwyl ac amser cinio ac mae’n dileu cyfleoedd ar gyfer symud iach a chwarae. Dylai gwisgoedd ar gyfer symud yn gyfforddus gynnwys esgidiau cyfforddus. Mae gwisgoedd ysgol ar gyfer symud yn gyfforddus wedi'u gwneud o ddefnyddiau cyfforddus sy'n awyru, ac mewn lliwiau tywyllach. Nid ydyn nhw'n gyfyngol o amgylch y gwddf ac mae ganddyn nhw doriad llac i alluogi symudiadau rhwydd. Maent yn gadarn, yn hawdd eu glanhau ac yn rhad i'w hadnewyddu. Mae gwisg ysgol ar gyfer symud yn gyfforddus bob amser yn lleihau'r rhwystrau i blant redeg, neidio, rholio, dringo, darganfod a symud mewn cynifer o ffyrdd â phosibl.\r\n\r\nCyfeirnodau:\r\nhttps://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/y-cynnydd-mewn-gordewdra-rhywbeth-i-gnoi-cil-arno/\r\nhttps://womeninsport.org/news/more-than-1-million-teenage-girls-fall-out-of-love-with-sport/","state":"open","signature_count":11,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-29T14:07:04.718Z","updated_at":"2026-07-08T22:18:21.865Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-08T22:18:21.862Z","closed_at":"2027-01-08T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-29T14:23:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Rebecca Miller","rejection":null,"debate":null,"topics":[],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":11}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":2},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":3},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":4}],"signatures_by_region":[]}}}