{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247000.json"},"data":{"type":"petition","id":247000,"attributes":{"action":"Peidio â chau cyffyrdd yng Nghasnewydd","background":"Fel cymudwyr yng Nghasnewydd, rydym yn gwrthwynebu cau cyffyrdd ar yr M4. Mae defnyddio ffyrdd lleol a llwybrau ysgol i liniaru priffyrdd yn hel traffig heibio i’n cartrefi, yn difetha ein heconomi, ac yn peryglu bywydau ein plant. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion Casnewydd yn sefyll yn ymyl priffordd. Mae boddi’r ffyrdd hyn dan gludiant nwyddau traffordd yn achosi tagfeydd, aer gwenwynig, a risg uchel o ddamweiniau i’r rhai sy’n cerdded i’r ysgol ac oddi yno. Rydym yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn diystyru cau cyffyrdd.","additional_details":"Mae cofnodion cyhoeddus swyddogol yn dangos bod ofnau ein cymuned yn gwbl gyfiawn. Mewn sesiwn ffurfiol yn y Senedd, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru fod y weinyddiaeth wrthi’n pwyso a mesur \"pob opsiwn ffordd arall\", gan gynnwys cau cyffyrdd lleol ar yr M4 yn benodol [South Wales Argus]. Ar ben hynny, fel y darlledwyd gan ITV News, mae'r Llywodraeth, dro ar ôl tro, wedi gwrthod diystyru cau’r cyffyrdd penodol hyn. Mae'r newid polisi hwn yn golygu y bydd cerbydau traffordd sy’n cludo nwyddau dros bellter hir yn gorfod mynd drwy galon dinas Casnewydd. Bydd symud tagfeydd o’r draffordd i strydoedd y ddinas yn achosi tagfeydd parhaol ar draws cymdogaethau lleol, yn amharu ar dargedau ansawdd aer, ac yn peri aflonyddwch difrifol, parhaol i deuluoedd [South Wales Argus].","state":"open","signature_count":3,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-02T17:28:38.874Z","updated_at":"2026-07-14T14:40:09.782Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-14T14:40:09.776Z","closed_at":"2027-01-14T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-02T17:34:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Danielle powell","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}