{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247007.json"},"data":{"type":"petition","id":247007,"attributes":{"action":"Cyflwyno archwiliadau iechyd gorfodol ar gyfer yr IUD bob dwy flynedd yng Nghymru","background":"Rwy’n rhoi’r ddeiseb hon ar waith ar ôl profi hunllef waethaf pob rhiant. Yn dilyn chwe blynedd gydag IUD yn ei le, fe ymgorfforodd yn wal fy nghroth heb i mi wybod. Fe wnes i feichiogi ac yn ddiweddarach cefais gamesgoriad septig ar ôl 17 wythnos, gan golli fy mabi.\r\nCefais gyfarwyddyd i wirio fy llinynnau, ond nid oedd y cyngor hwnnw ar ei ben ei hun yn ddigon, ac ni fyddai wedi bod yn ddigon unrhyw bryd imi atal yr hyn oedd i ddod.\r\nGallai adolygiadau rheolaidd gan weithiwr proffesiynol fod wedi helpu i atal y golled a'r trawma a ddilynodd.\r\n","additional_details":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno archwiliadau IUD gorfodol bob dwy flynedd drwy gydol oes y ddyfais.\r\nYn aml, cynghorir menywod i “wirio eu llinynnau” ar ôl gosod yr IUD, ond efallai na fydd hyn ar ei ben ei hun yn nodi cymhlethdodau fel dadleoli, mewnosod, mudo, neu fethiant atal cenhedlu.\r\nByddai adolygiadau rheolaidd bob yn ail flwyddyn yn gyfle i gymryd y camau canlynol:\r\nCadarnhau fod yr IUD yn parhau i fod yn y safle cywir ac yn gweithredu fel y bwriadwyd;\r\nnodi cymhlethdodau’n gynnar, er mwyn osgoi canlyniadau difrifol;\r\nlleihau'r risg o feichiogrwydd anfwriadol a cholli beichiogrwydd;\r\ndarparu addysg barhaus am rybuddion a symptomau;\r\ngwella diogelwch a hyder cleifion o ran dulliau atal cenhedlu hirdymor.\r\nNi ddylai unrhyw fenyw orfod profi trawma y gellir ei atal, colli beichiogrwydd, haint, na chymhlethdodau difrifol eraill yn sgil diffyg sesiynau dilynol arferol. Byddai cyflwyno adolygiadau IUD rheolaidd yn helpu i nodi problemau yn gynt, gan wella canlyniadau a chryfhau gofal iechyd menywod ledled Cymru.\r\n","state":"open","signature_count":93,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-09T08:57:40.474Z","updated_at":"2026-07-16T16:03:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-16T07:52:09.726Z","closed_at":"2026-10-01T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-09T09:31:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Melissa Rodenburg","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":69},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":21},{"name":"Yr Iseldiroedd","code":"NL","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":2},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":2},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":6},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":12},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":2},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":1},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":2},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":27},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":2},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":3},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":2}],"signatures_by_region":[]}}}