{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247036.json"},"data":{"type":"petition","id":247036,"attributes":{"action":"Rhoi’r gorau i bob datblygiad ar fawndiroedd ledled Cymru!","background":"Mae mawndiroedd yng Nghymru yn darparu storfa carbon bwysig, maen nhw’n storio 30% o’n carbon ar y tir. Maent yn hanfodol o ran ein goroesiad: mae mawndiroedd iach yn storio mwy o garbon na holl goedwigoedd y byd gyda’i gilydd.\r\nMaent hefyd yn darparu cynefin hanfodol i blanhigion, anifeiliaid, adar a phryfed, ac yn helpu i atal llifogydd yn wyneb tywydd cynyddol anwadal. Ni ellir symud nac ail-greu mawndir; unwaith y bydd wedi’i ddarnio neu ei ddinistrio, mae’n cael ei golli.\r\nMae mawndiroedd hanfodol Cymru mewn perygl oherwydd\r\n•plannu coed ar gyfer coedwigaeth fasnachol,\r\n•datblygiadau ffermydd gwynt mawr (megis Waun Hesgog a Lluest y Gwynt ym Mynyddoedd Cambria, sy’n ceisio caniatâd ar hyn o bryd),\r\n•defnydd cynyddol o gerbydau oddi ar y ffordd,\r\n•tanau gwyllt,\r\n• adeiladu ffyrdd,\r\n•llosgi tymhorol.\r\nMae datgarboneiddio ynni a chynyddu gorchudd coed yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ond ni all hynny fod ar draul mawndir!\r\nMae’r 60 neu fwy o ddatblygiadau adnewyddadwy diwydiannol ar raddfa fawr a gynigir yn bygwth tua 36% o adnodd mawndir Cymru.\r\n","additional_details":"Rhaid amddiffyn ac adfer pob mawndir yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth frys yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.\r\nMae echdynnu mawn ar gyfer gerddi wedi'i wahardd, nawr mae’n rhaid inni atal cyfeintiau llawer mwy rhag cael eu dinistrio gan y gweithgareddau eraill hyn.\r\nCyflwynir y ddeiseb hon gan ymgyrchwyr cymunedol, Grŵp Gweithredu Waun Hesgog, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Chymdeithas Mynyddoedd Cambria.\r\n","state":"open","signature_count":32,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-17T08:10:00.019Z","updated_at":"2026-07-21T21:34:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-21T10:46:44.660Z","closed_at":"2026-10-05T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-17T12:12:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Jennifer Lloyd","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":31},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":2},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":2},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":2},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":8},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":9},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":2},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":2},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}