{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247044.json"},"data":{"type":"petition","id":247044,"attributes":{"action":"Gwella cyfleoedd cyflogaeth Band 5 i nyrsys sydd newydd gymhwyso yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu sy'n cynnig digon o gyfleoedd Band 5 i nyrsys sydd newydd gymhwyso ac sy'n graddio yng Nghymru, fel bod myfyrwyr sy’n cael eu hyfforddi yng Nghymru yn cael cyfle teg i ddechrau eu gyrfaoedd yn GIG Cymru.","additional_details":"Mae nyrsys sy’n astudio yng Nghymru yn cwblhau dros 2,300 o oriau ar leoliadau clinigol ac yn ymrwymo i flynyddoedd o hyfforddiant. Mae llawer yn cydbwyso lleoliadau di-dâl gyda gwaith â thâl ac ymrwymiadau teuluol oherwydd eu bod nhw eisiau gwasanaethu GIG Cymru.\r\n\r\nEr gwaethaf hyn, mae llawer o nyrsys sydd newydd gymhwyso yn ei chael hi'n anodd sicrhau swyddi Band 5 ar ôl graddio. Mae hyn yn peri risg o golli gweithwyr proffesiynol medrus i rannau eraill o'r DU neu i yrfaoedd eraill, er mai Cymru sy’n buddsoddi yn eu haddysg.\r\n\r\nRydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a byrddau iechyd i wella’r broses o gynllunio'r gweithlu a chreu digon o gyfleoedd i nyrsys sydd newydd gymhwyso ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru.\r\n\r\nFel nyrs yn y flwyddyn olaf o astudio, rwy'n bryderus iawn, ar ôl blynyddoedd o hyfforddiant ac aberth, y gallai llawer o raddedigion fod yn methu â dechrau eu gyrfaoedd yn y GIG yng Nghymru.\r\n","state":"open","signature_count":29,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-25T19:32:49.926Z","updated_at":"2026-07-30T21:30:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-30T14:49:23.861Z","closed_at":"2027-01-30T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-25T19:50:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Ellie Atkins-Tate","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Canada","code":"CA","signature_count":1},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":26},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":12},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":3},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":4},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":3},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}