{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247052.json"},"data":{"type":"petition","id":247052,"attributes":{"action":"Diwygio gofal plant a ariennir yng Nghymru i'w wneud yn deg ac yn hygyrch","background":"Mae teuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru yn cael trafferth gyda chost gofal plant. Er gwaethaf cefnogaeth y llywodraeth, mae llawer o rieni yn dal i wynebu ffioedd na ellir eu fforddio neu maent wedi'u heithrio oherwydd rheolau cymhwysedd. Yn aml, mae teuluoedd â phlant sydd ag anghenion ychwanegol yn wynebu rhwystrau hyd yn oed yn fwy, gyda lleoedd wedi'u hariannu heb fod ar gael oherwydd na all darparwyr ddiwallu eu hanghenion. Dylai gofal plant fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bob teulu sy'n gweithio.","additional_details":"Mae fy ngŵr a minnau’n athrawon yng Nghymru ac wedi talu tua £1,100 y mis am ddau ddiwrnod o ofal plant bob wythnos i’n dau blentyn ifanc, 18 mis oed a 3 oed. Er bod cymorth yn gwella i rai teuluoedd, mae llawer o rieni wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd rheolau cymhwysedd a chyflwyno gofal plant wedi'i ariannu menw modd graddol.\r\nRydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cyllid gofal plant fel ei fod yn decach, yn haws ei gyrchu ac ar gael yn wirioneddol i bob teulu sy'n gweithio. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod digon o leoedd wedi'u hariannu ar gyfer plant sydd ag Anghenion Addysgiadol Arbennig ac Anableddau, gwella cymhwysedd lle mae teuluoedd wedi'u heithrio ar hyn o bryd, a lleihau'r baich ariannol sy'n atal rhieni rhag gweithio.\r\n","state":"open","signature_count":74,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-30T09:04:43.927Z","updated_at":"2026-08-03T22:54:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-03T12:13:31.999Z","closed_at":"2027-02-03T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-30T09:14:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Rebecca Erin Lloyd","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":67},{"name":"Ffrainc","code":"FR","signature_count":1},{"name":"Guernsey","code":"GG","signature_count":2},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":4}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":21},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":32},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":3},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":6},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":1},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}