{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247057.json"},"data":{"type":"petition","id":247057,"attributes":{"action":"Diwygio’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fel nad yw addysg rhyw yn cael ei dysgu cyn 12 oed","background":"Nid yw’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb presennol yn pennu isafswm oedran ar gyfer addysg rhyw. Rydym o’r farn na ddylid addysgu plant o dan 12 oed am berthnasoedd rhywiol na gweithgaredd rhywiol yn yr ysgol. Yn hytrach, dylai plant iau gael gwersi sy’n briodol i'w hoedran ar gyfeillgarwch, bywyd teuluol, parch, diogelwch personol, preifatrwydd corfforol a gwybod sut i geisio cymorth gan oedolion dibynadwy. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb er mwyn pennu 12 fel yr oedran isaf ar gyfer addysg rhyw.","additional_details":"Mae llawer o rieni o’r farn y dylai penderfyniadau ynghylch pryd y cyflwynir addysg rhyw i blant adlewyrchu aeddfedrwydd emosiynol plant yn well. Er bod addysg diogelu yn bwysig, credwn y dylai fod gwahaniaeth clir rhwng addysgu diogelwch personol ac addysgu am berthnasoedd rhywiol.\r\nByddai pennu isafswm oedran o 12 yn cynnig eglurder i ysgolion a sicrwydd i rieni, ac yn sicrhau mai dim ond pan fydd plant yn gallu eu deall yn well y bydd yr agweddau mwyaf sensitif ar addysg rhyw yn cael eu cyflwyno.\r\nRydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu a diwygio'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol i sefydlu’r isafswm oedran hwn, gan barhau i ddarparu addysg briodol i blant iau ar ddiogelwch, parch a pherthnasoedd iach.\r\n","state":"open","signature_count":3,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-30T19:03:38.493Z","updated_at":"2026-08-10T14:05:12.928Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-10T14:05:12.919Z","closed_at":"2027-02-10T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-03T19:06:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Scott Murphy","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}