{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247069.json"},"data":{"type":"petition","id":247069,"attributes":{"action":"Cymryd camau brys fel nad yw’r rhai sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig Difrifol yng Nghymru yn cael eu gadael heb ofal meddygol hanfodol mwyach","background":"Mae’r gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig (ME) yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Yn benodol, mae pryderon mawr o hyd ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai sydd â’r ffurf ddifrifol ar y cyflwr. Mae hyn yn gadael rhai teuluoedd sy’n wynebu penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd heb arweiniad meddygol.\r\n\r\nMae dioddefwyr yn gorfod aros mewn ystafelloedd tywyll; mae angen gofal 24 awr y dydd arnynt; ac mae rhai yn methu siarad, bwydo eu hunain, goddef golau neu sain, neu hyd yn oed eistedd i fyny.\r\n\r\nBydd camau arfaethedig yn sicrhau bod pobl sydd ag ME Difrifol yn gallu cael gafael ar ofal meddygol diogel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynyddu’r posibilrwydd o wella.","additional_details":"Rydym yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen dirfawr yn cael cymorth brys a hirdymor.\r\n\r\nDyma’r camau gweithredu a luniwyd ar y cyd gan y cyrff a ganlyn: Severe ME Difrifol Cymru (SMEDC), Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru (WAMES), Action for ME (AfME), Long Covid Support (LC Support).\r\n\r\n1. Creu Grŵp Arbenigol Cenedlaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw i gydweithio i lunio Strategaeth a Chynllun Cyflawni Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir, gan sicrhau tegwch gwasanaethau a chydymffurfedd â chanllawiau NICE (NG206 ME/CFS), ar draws pob oedran a phob lefel difrifoldeb.\r\n\r\n2. Penodi Arweinydd/Arweinwyr Clinigol / Ymgynghorydd/Ymgynghorwyr Meddygol Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir i gydlynu gofal ar draws byrddau iechyd, lleihau amrywiadau rhanbarthol, cefnogi achosion cymhleth, ac arwain hyfforddiant a thriniaeth, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i gyd-fynd ag ymchwil ddatblygol.\r\n\r\n3. Datblygu Strategaeth Ymchwil ME/CFS a Covid Hir i gyflymu’r gwaith ymchwil a wneir yng Nghymru drwy’r Sector Gwyddorau Bywyd / Hwb Gwyddorau Bywyd erbyn 2027.\r\n\r\n4. Ystyried canlyniadau hirdymor mewn strategaethau cynllunio/atal pandemig yn y dyfodol, gan adolygu canllawiau ynghylch Atal a Rheoli Heintiau.\r\n","state":"open","signature_count":68,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-05T16:08:39.492Z","updated_at":"2026-08-10T12:59:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-10T10:38:26.006Z","closed_at":"2027-02-10T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-06T04:16:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Shauna Chambers","rejection":null,"debate":null,"topics":[],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":56},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":12}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":5},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":4},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":12},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":3},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":1},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":29},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}