{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247071.json"},"data":{"type":"petition","id":247071,"attributes":{"action":"Dylid adolygu’r Cynllun Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig yng Nghymru i amddiffyn bywoliaeth pobl a diogelwch y cyhoedd","background":"Mae cynllun trwyddedu newydd Cymru yn creu rhwystrau i aciwbigwyr, tatŵyddion, ymarferwyr colur lled-barhaol / microlafnu, ac ymarferwyr electrolysis a thyllu hunangyflogedig sy'n rhentu ystafelloedd triniaeth. Gall busnesau sy’n eu cynnal wynebu costau cymeradwyo safleoedd, a chyfrifoldeb o ran hyfforddiant a rheoleiddio er nad ydynt yn cyflawni'r triniaethau. Gall hyn arwain at fod ymarferwyr cymwys heb weithleoedd addas, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.","additional_details":"Rydym yn cefnogi rheolaeth gref ar heintiau ond eisiau system fwy cymesur.\r\nRydym yn cefnogi safonau cadarn ar gyfer rheoli heintiau, ond gall y cynllun presennol atal ymarferwyr rhag cael gafael ar weithleoedd addas. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno model ystafell driniaeth ddynodedig fel y gall ymarferwyr trwyddedig gymryd cyfrifoldeb am sicrhau ystafell sy’n cydymffurfio â’r rheolau o fewn busnes arall, tra bod archwiliadau, golchi dwylo, arwynebau glanadwy, eitemau miniog a rheolaethau gwastraff yn parhau yn orfodol.\r\nMae angen llwybr cymesur hefyd ar gyfer lleoliadau dros dro/cymunedol, a Chydnabyddiaeth Dysgu Blaenorol pan mae hyfforddiant rheoli heintiau a gyflawnwyd eisoes yn bodloni'r safon.\r\nMae aciwbigo symudol yn codi anghysondeb clir: gall ymarferwyr asesu risg cartrefi anghyfarwydd, ond eto beidio â gallu defnyddio ystafell glinigol bwrpasol oherwydd na fydd y busnes ble y’i lleolir yn ymgymryd â thrwyddedu’r safle.\r\nDylid adolygu'r effaith economaidd ar hunangyflogaeth, ar wasanaethau gwledig, ar fusnesau rhentu ystafelloedd ac ar gostau llesiant.\r\nMae Lloegr yn datblygu trwyddedu ar gyfer triniaethau cosmetig anfeddygol, felly mae gwersi a ddysgir yng Nghymru yn bwysig ledled y DU.\r\n","state":"open","signature_count":51,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-09T15:16:40.665Z","updated_at":"2026-08-12T21:30:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-12T08:20:26.106Z","closed_at":"2027-02-12T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-09T15:52:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Leah Cross","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":22},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":29}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":9},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":2}],"signatures_by_region":[]}}}