{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247072.json"},"data":{"type":"petition","id":247072,"attributes":{"action":"Sefydlu cysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chiwba a Venezuela","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn:\r\nDatblygu cysylltiadau partneriaeth diwylliannol, addysgol, meddygol a chymunedol ffurfiol â Chiwba a Venezuela, gan ddilyn model partneriaethau presennol Cymru gyda Lesotho ac Uganda, o dan gynllun Dolen Cymru. Dylai hyn gynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnewid athrawon a gweithwyr iechyd, cydweithio diwylliannol, a meithrin cysylltiadau rhwng cymunedau.","additional_details":"Mae gan Gymru draddodiad 40 mlynedd o ddatblygu cysylltiadau partneriaeth rhyngwladol ffurfiol, wedi’u hariannu gan y Llywodraeth a’u darparu drwy gynllun Dolen Cymru a rhaglen Cymru ac Affrica. Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Lesotho, a lansiwyd ym 1985, wedi arwain at leoli dros 50 o athrawon o Gymru yn Lesotho. Mae hefyd wedi cefnogi gweithgarwch partneriaeth a chyfnewid yn y GIG, ac wedi arwain at gydweithio diwylliannol ac addysgol rhwng y ddwy genedl. Mae partneriaeth debyg yn bodoli gydag Uganda.\r\n\r\nMae'r cysylltiadau hyn yn gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig Llywodraeth Cymru. Er bod cysylltiadau rhyngwladol fel arfer wedi'u cadw yn ôl gan Senedd y DU, mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i drefnu cytundebau partneriaeth nad ydynt yn rhwymol â Llywodraethau eraill mewn meysydd datganoledig, megis addysg, iechyd a diwylliant, ac i gynnal cyfarfodydd gyda chymheiriaid o genhedloedd eraill.\r\n\r\nMae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn y model partneriaeth sefydledig, anwleidyddol hwn i Giwba a Venezuela, er mwyn meithrin cysylltiadau rhwng pobl mewn ardaloedd datganoledig, cyfnewid athrawon, a chydweithio ym meysydd iechyd a diwylliant, fel y mae eisoes yn ei wneud gyda Lesotho.","state":"open","signature_count":7,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-10T15:14:14.455Z","updated_at":"2026-08-14T10:49:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-14T08:51:35.871Z","closed_at":"2027-02-14T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-10T15:21:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Maria Donnellan","rejection":null,"debate":null,"topics":[],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":7}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":3},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":1},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":2},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}