{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247074.json"},"data":{"type":"petition","id":247074,"attributes":{"action":"Sicrhau cydymffurfiaeth orfodol â chanllaw NICE rhif 73, data cenedlaethol, a monitro arbenigol blynyddol ar gyfer gofal endometriosis","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gofal endometriosis yng Nghymru, gan weithredu system genedlaethol ar gyfer monitro a thriniaeth ddiogel sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym am i’r Llywodraeth gyflwyno gofyniad i gydymffurfio'n llawn â chanllaw NICE rhif 73, mewn perthynas ag archwilio ac atebolrwydd; creu cofrestrfa genedlaethol ar gyfer endometriosis; a sicrhau bod triniaeth arbenigol yn digwydd yn flynyddol, a hynny’n orfodol. Mae’r gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn anghyson, yn anniogel, ac yn brin o ddata. Byddai'r diwygiadau hyn yn sicrhau bod gofal atebol a chyfartal yn cael ei ddarparu.","additional_details":"Yng Nghymru, mae angen system strwythuredig ac atebol ar gyfer gofal endometriosis, sy'n sicrhau bod pob claf yn cael ei reoli’n gyson, o dan arweiniad arbenigwyr. Dylid sicrhau bod rhaid i fyrddau iechyd ddilyn canllaw NICE rhif 73 yn llawn, gan gynnwys trefniadau archwilio ffurfiol, dyletswyddau adrodd, a chanlyniadau pan na chaiff canllawiau eu gweithredu. Mae creu cofrestrfa genedlaethol ar gyfer endometriosis yn hanfodol o ran cofnodi llwybrau diagnostig, cofnodi camau’r clefyd yn gywir, cofnodi’r baich o ran symptomau, cofnodi technegau llawfeddygol, cofnodi cymhlethdodau, cofnodi’r cyfnodau rhwng achosion o’r clefyd yn dychwelyd, cofnodi’r effaith ar ffrwythlondeb, a chofnodi datblygiad anabledd. Byddai'r data hyn yn caniatáu i Gymru olrhain canlyniadau, nodi amrywiadau rhanbarthol, a chynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol yn hytrach na rhagdybiaethau. Byddai cynnal adolygiadau arbenigol blynyddol gorfodol yn sicrhau asesiad parhaus o boen, yr effaith ar organau, effeithiolrwydd triniaeth, a'r risg o’r clefyd yn dychwelyd, gan atal menywod rhag cael eu gadael heb driniaeth ddilynol. Mae’r gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn brin o strwythur, goruchwyliaeth, a chanlyniadau mesuradwy. Heb y diwygiadau hyn, nid oes modd i Gymru ddarparu gofal diogel a chyfartal, na deall gwir raddfa'r niwed a achosir gan oedi o ran cael diagnosis a monitro annigonol. ","state":"open","signature_count":6,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-10T16:05:42.022Z","updated_at":"2026-08-14T11:24:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-14T08:47:42.977Z","closed_at":"2027-02-14T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-10T21:05:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Nicola Rogers","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":5},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":3},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":2}],"signatures_by_region":[]}}}