{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247076.json"},"data":{"type":"petition","id":247076,"attributes":{"action":"Cryfhau codau a chanllawiau statudol i wella diogelwch a chymorth i blant awtistig ledled Cymru","background":"Atal niwed y gellir ei osgoi a gwella diogelwch i blant awtistig drwy well ymwybyddiaeth, addysg am ddiogelwch dŵr, dyfeisiau diogelwch gwirfoddol a gwell cymorth gan wasanaethau brys a rheng flaen. Dylid cryfhau’r canllawiau presennol - gan gynnwys y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a chanllawiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - i asesu anghenion a mynd i’r afael â risgiau diogelwch i’r plant nad ydynt mor ymwybodol o berygl.\r\n\r\nByddai hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i deuluoedd wrth barchu preifatrwydd ac annibyniaeth plant.","additional_details":"• Datblygu safonau gofynnol, gyda chyllid neu gymorth cydgysylltiedig i roi’r un cymorth diogelwch ni waeth ble rydych chi’n byw.\r\n• Sicrhau hyfforddiant cyson ar gyfer sefyllfaoedd brys neu sefyllfaoedd sy’n ymwneud â diogelu: ar gyfer staff addysg, gwasanaethau iechyd ac ambiwlans, darparwyr cyfleusterau hamdden a staff rheng flaen eraill. Dylai hyfforddiant gwmpasu gwahaniaethau o ran cyfathrebu, gorlwytho synhwyraidd, colli rheolaeth yn llwyr, diffyg ymwybyddiaeth o berygl, crwydro, a sut i ddynesu at blentyn awtistig a’i gefnogi yn ddiogel.\r\n• Sicrhau mynediad cyfartal at gyfleoedd cenedlaethol o ran nofio a diogelwch dŵr gan gynnwys y rhaglen nofio a diogelwch dŵr i ysgolion. Gallai addasiadau rhesymol priodol gynnwys grwpiau llai, sesiynau tawelach, cymorth ychwanegol neu hyfforddwyr sy’n ymwybodol o awtistiaeth.\r\n• Datblygu cynllun gwirfoddol ar gyfer plant sydd mewn perygl arbennig, ee dyfeisiau GPS neu dechnoleg arall, a dulliau adnabod diogelwch am ddim neu â chymhorthdal - cardiau neu freichledau sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol. Pob un gyda chaniatâd priodol a mesurau diogelu preifatrwydd a data.\r\n\r\nDylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gwasanaethau perthnasol, pobl awtistig, rhieni a gofalwyr i ddatblygu dull cyson o weithredu ar gyfer Cymru gyfan.","state":"open","signature_count":112,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-13T14:01:51.529Z","updated_at":"2026-08-21T06:13:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-20T14:01:23.258Z","closed_at":"2027-02-13T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-13T14:05:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Kimberley williams","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"gofal-cymdeithasol","name":"Gofal Cymdeithasol"},{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":110},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":1},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":1},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":3},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":3},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":100}],"signatures_by_region":[]}}}