{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247078.json"},"data":{"type":"petition","id":247078,"attributes":{"action":"Dyrannu 10% o’r gyllideb drafnidiaeth i seilwaith beicio o'r safon orau yn y byd drwy Drafnidiaeth Cymru","background":"Mae Cymru wedi gwneud deddfwriaeth arloesol drwy'r Ddeddf Teithio Llesol. Fodd bynnag, mae cynnydd ar seilwaith beicio wedi dod i ben oherwydd diffyg buddsoddi cynaliadwy a gwaith cynllunio araf. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i ddyrannu o leiaf 10% o’r gyllideb drafnidiaeth ar seilwaith beicio, gan ei gwneud yn ofynnol i gynghorau weithio gyda changen newydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) i adeiladu seilwaith beicio parhaus o ansawdd uchel i’r safonau gorau yn y byd, gan gynnwys egwyddorion CROW yr Iseldiroedd.\r\nMae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio gyda chynghorau a chymdeithasau tai i ddatblygu rhai darpariaethau teithio llesol, ond nid ydynt yn adeiladu nac yn cynnal a chadw'r rhan fwyaf o lwybrau beicio yng Nghymru. Drwy ddatblygu adran seilwaith feicio newydd o fewn TrC, un y mae'n ofynnol i gynghorau gydweithio â hi wrth gynnal a chadw priffyrdd ac uwchraddio ein rhwydwaith ffyrdd, credwn y gallwn sicrhau seilwaith beicio wedi'i ariannu'n llawn ac wedi'i integreiddio'n iawn ar bob cyfle - gyda TrC yn darparu'r cyllid, a’r arbenigedd angenrheidiol o ran cynllunio ac adeiladu o dan un to ac o fewn cyllideb y llywodraeth.","additional_details":"Mae Llawlyfr Dylunio CROW ar gyfer Traffig Beiciau yn ddogfen uchel ei pharch y cyfeirir ati ledled y byd, a chaiff ei defnyddio’n ddyddiol gan gynllunwyr trafnidiaeth yn yr Iseldiroedd i integreiddio seilwaith beicio yn effeithiol fel prif ffurf o gludiant. Mae Llysgenhadaeth Beicio'r Iseldiroedd yn argymell bod gwledydd yn dilyn y 5 egwyddor i adeiladu seilwaith beicio o'r safon orau yn y byd: https://dutchcycling.nl/expertises/cycling-infrastructure/\r\n","state":"open","signature_count":16,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-14T13:17:51.593Z","updated_at":"2026-08-19T01:26:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-18T12:53:34.415Z","closed_at":"2027-02-18T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-14T14:08:10.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Trinity Lane","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":15},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":8},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":5},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}