{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247088.json"},"data":{"type":"petition","id":247088,"attributes":{"action":"Dylid ôl-ddyddio gostyngiadau’r dreth gyngor o ran dementia i’r dyddiad ardystio gan Feddyg Teulu","background":"Dim ond os oes ganddynt dystysgrif feddygol a'u bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol y caiff pobl â dementia eu 'diystyru' (peidio â’u cyfrif) o ran y dreth gyngor. Mae cyfnodau aros hir am rai budd-daliadau, ac felly mae llawer o bobl â dementia yn gorfod aros am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i fod yn gymwys ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor.","additional_details":"Rydym am i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd yr unigolyn wedyn yn mynd ymlaen i fod yn gymwys i gael budd-dal perthnasol. Goblygiadau hyn ddylai fod, bod pobl â dementia yn cael gostyngiadau ychwanegol yn y dreth gyngor am gyfnodau hwy, a allai arbed miloedd o bunnoedd iddynt o ran eu bil treth gyngor.\r\n\r\nMae dros 27,000 o bobl yng Nghymru â dementia yn cael gofal yn eu cartrefi. Rydym ni o’r farn fod y rheolau presennol yn annheg, a bod angen eu diwygio.\r\n\r\nMae’r deisebwyr felly yn gofyn i’r Senedd annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd yr unigolyn wedyn yn gymwys i gael budd-dal perthnasol.","state":"open","signature_count":8,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-18T09:08:05.019Z","updated_at":"2026-08-19T21:44:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-19T14:44:18.109Z","closed_at":"2027-02-18T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-18T09:16:30.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Suzy Webster","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":6},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":1},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":1},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":2}],"signatures_by_region":[]}}}