{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247090.json"},"data":{"type":"petition","id":247090,"attributes":{"action":"Dylid cydnabod \"Awtistiaeth Ddwys\" yn ffurfiol ym mholisi iechyd a gofal cymdeithasol Cymru","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yn ffurfiol \"Awtistiaeth Ddwys\" fel categori clinigol a gweinyddol ar wahân ar draws GIG Cymru, gofal cymdeithasol awdurdodau lleol, ac addysg.\r\nO dan yr ambarél eang Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) presennol, mae unigolion dieiriau y mae angen gofal 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos, goruchwyliaeth ddiogelwch, a gofal personol llawn arnynt wedi'u grwpio gydag unigolion sydd angen cymorth ysgafn. Mae'r system un label hon yn ystumio polisi, yn gwanhau cyllidebau gofal cymdeithasol dibyniaeth fawr, ac yn arwain at fod teuluoedd yn wynebu lludded difrifol fel gofalwyr.","additional_details":"Cyn y diweddariadau i'r llawlyfrau diagnostig (DSM-5 / ICD-11), roedd y system feddygol yn gwahaniaethu rhwng proffiliau fel Anhwylder Awtistig a Syndrom Asperger. Er bod rhesymau dilys dros ddileu termau etifeddol yn raddol, mae dileu is-gategorïau penodol wedi creu ambarél fonolithig \"ASD” sy'n dileu gwahaniaethau swyddogaethol eithafol.\r\n\r\nMae gwahaniaethu rhwng anghenion cymorth yn sicrhau bod unigolion dieiriau, sydd ag anableddau difrifol, yn cael pecynnau gofal gydol oes, tra bod unigolion sy'n gallu gweithredu’n well yn cael cymorth iechyd meddwl wedi'i dargedu.\r\nRydym yn annog Llywodraeth Cymru i:\r\n-Weithredu fframweithiau diagnostig haenedig ar draws byrddau iechyd y GIG yng Nghymru yn unol ag argymhellion rhyngwladol (fel y Comisiwn Lancet ar Awtistiaeth).\r\n-Gorchymyn bod cynghorau lleol yn asesu anghenion gofal cymdeithasol yn seiliedig ar ddibyniaeth swyddogaethol ddifrifol, cyfathrebu dieiriau, a rheoli diogelwch unigolion bedair awr ar hugain y dydd saith diwrnod yr wythnos.\r\n-Diogelu cyllid pwrpasol ar gyfer gofal corfforol a gofal ysbaid 24 awr y dydd i unigolion ag awtistiaeth ddwys a'u gofalwyr.\r\n","state":"open","signature_count":42,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-18T11:18:29.506Z","updated_at":"2026-08-20T05:47:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-19T14:47:24.120Z","closed_at":"2027-02-19T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-18T11:26:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Kadie Louise Phillips","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"gofal-cymdeithasol","name":"Gofal Cymdeithasol"},{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":36},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":6}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":2},{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":1},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":1},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":1},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":26},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}