{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247091.json"},"data":{"type":"petition","id":247091,"attributes":{"action":"Datblygu Cynllun Iechyd Dynion i Gymru","background":"Mae dynion yng Nghymru yn wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, gan gynnwys disgwyliad oes is a chyfraddau marwolaeth cynnar yn sgil llawer o achosion blaenllaw.\r\n\r\nHefyd gall dynion fod yn llawer llai tebygol o droi at wasanaethau iechyd a chael cymorth pan fydd ei angen arnynt.\r\n\r\nGallai Cynllun Iechyd Dynion cydgysylltiedig fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, helpu i atal problemau ac ymyrryd yn gynnar, a sicrhau bod gwasanaethau’n gwneud yn well o ran diwallu anghenion dynion ledled Cymru.","additional_details":"Dylai Cynllun Iechyd Dynion fabwysiadu dull cyfannol at iechyd corfforol a meddyliol dynion, gan gydnabod y rhyng-gysylltiad rhwng yr elfennau hyn.\r\n\r\nDylai ystyried meysydd fel iechyd meddwl ac atal hunan-laddiad, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, camddefnyddio sylweddau, ffyrdd iach o fyw, ynysu cymdeithasol, mynediad at ofal iechyd, a phenderfynyddion cymdeithasol ehangach o ran iechyd.\r\n\r\nDylai’r Cynllun nodi’r anghydraddoldebau y mae gwahanol ddynion yn eu hwynebu a gosod blaenoriaethau clir a chamau gweithredu mesuradwy ar gyfer gwella canlyniadau. Dylai’r gwaith o’i ddatblygu gynnwys dynion, gweithwyr iechyd proffesiynol, ymchwilwyr a sefydliadau perthnasol y trydydd sector.\r\n\r\nMae gwledydd fel Iwerddon, Awstralia a Lloegr wedi datblygu strategaethau cenedlaethol ar gyfer iechyd dynion, ac mae Canada a Seland Newydd yn datblygu dulliau tebyg.\r\n\r\nGall a dylai Cymru ddysgu o’r enghreifftiau hyn a datblygu cynllun sy’n addas i anghenion dynion yng Nghymru.\r\n","state":"open","signature_count":26,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-18T23:20:15.109Z","updated_at":"2026-08-21T05:59:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-20T16:00:08.303Z","closed_at":"2027-02-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-19T12:14:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Andrew Jenkins","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":25},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":3},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":17},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":1},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":1},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}