{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247092.json"},"data":{"type":"petition","id":247092,"attributes":{"action":"Amddiffyn ffrwythlondeb menywod sydd ag endometriosis lle mae eu ffrwythlondeb mewn perygl","background":"Mae endometriosis yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 10 o fenywod a gall effeithio’n sylweddol ar eu ffrwythlondeb. Gall y problemau y mae menywod yn eu hwynebu gynnwys nifer yr wyau sydd ganddynt wrth gefn, niwed i’w hofarïau a dirywiad cynnar o ran eu ffrwythlondeb, a gall triniaeth a llawdriniaeth effeithio ymhellach ar eu potensial i atgenhedlu. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod ag endometriosis sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod endometriosis fel rhywbeth sy’n peryglu ffrwythlondeb, a darparu mynediad teg at wasanaethau diogelu ffrwythlondeb.","additional_details":"Gall endometriosis fygwth ffrwythlondeb drwy endometriomâu ofaraidd, llai o wyau wrth gefn a niwed a achosir gan lawdriniaeth. Mae ESHRE yn argymell trafod diogelu ffrwythlondeb gyda menywod ag endometriosis ofaraidd helaeth, ac mae NICE yn cydnabod yr angen i ystyried ffrwythlondeb a nifer yr wyau wrth gefn wrth reoli’r cyflwr.\r\n\r\nYng Nghymru, gall gymryd bron 10 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis, sy’n golygu bod y clefyd yn datblygu am flynyddoedd mewn rhai menywod cyn iddynt gael gofal arbenigol. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb oherwydd endometriosis.\r\n\r\nMae’r ddeiseb hon yn galw am lwybr GIG Cymru ar sail tystiolaeth, sy’n darparu asesiad ffrwythlondeb ac, lle bo’n glinigol briodol, arian cyhoeddus i rewi wyau menywod sydd mewn perygl sylweddol o golli eu ffrwythlondeb.\r\n","state":"open","signature_count":169,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-19T12:21:27.881Z","updated_at":"2026-08-21T06:29:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-20T15:55:39.928Z","closed_at":"2027-02-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-19T12:32:10.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Eve Williams","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":155},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":13},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":24},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":7},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":2},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":9},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":24},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":3},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":6},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":71},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":4}],"signatures_by_region":[]}}}