{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247097.json"},"data":{"type":"petition","id":247097,"attributes":{"action":"Galw am ymchwiliad i agweddau ac arferion sy'n gysylltiedig ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru","background":"Amcan yr ymchwiliad hwn fyddai cydnabod yn gyhoeddus gamweddau awdurdodau lleol o ran eu hymddygiad ynghylch materion sy'n gysylltiedig ag ADY ym maes addysg. Yn dilyn y datgeliadau diweddar gan chwythwr chwiban o awdurdod lleol, yn ogystal â'r problemau sydd eisoes yn wybyddus yn eang ymhlith rhieni plant ag ADY gydag awdurdodau lleol ac ysgolion, mae angen i'r llywodraeth gydnabod yn gyhoeddus gwmpas y problemau hyn a'u heffaith, fel bod modd gwella safonau.","additional_details":"Mae eisoes yn hysbys o fewn y gymuned anghenion dysgu ychwanegol fod awdurdodau lleol ac ysgolion yn esgeuluso eu cyfrifoldebau i roi darpariaethau digonol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r sefydliadau hyn, nid yn unig yn esgeuluso eu dyletswyddau, ond credwn eu bod yn gwneud hynny drwy ddulliau gelyniaethus ymwybodol neu ddulliau trin o ran emosiwn, er mwyn achosi'r gofid mwyaf i rieni/gofalwyr a phlant ag ADY. Mae’r problemau hefyd yn cynnwys: defnyddio iaith enllibus, iaith ymosodol, neu iaith ddiraddiol yn uniongyrchol neu'n gudd tuag at rieni/gofalwyr ADY, yn ogystal ag ymddygiad bygythiol a bwlio drwy gyfathrebiadau gweinyddol (e.e. llythyrau ysgol yn cyrraedd ar benwythnosau i achosi'r gofid a'r aflonyddwch mwyaf i fywyd teuluol).\r\n\r\nMae pawb yn y gymuned ADY yn gwybod am y niwed y mae'r system bresennol yn ei hachosi i deuluoedd, yn enwedig i blant mewn addysg brif ffrwd, ac rydym wedi cael digon ar gael ein tanseilio nes y teimlwn mai ni yw'r broblem. Mae'r system yn ddrylliedig ac mae angen iddi newid, fel bod pob plentyn yn cael addysg deg.","state":"open","signature_count":5,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-22T18:34:03.272Z","updated_at":"2026-08-26T17:52:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-26T14:27:15.689Z","closed_at":"2027-02-26T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-23T14:50:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Phoebe Howells-Darcy","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"gofal-cymdeithasol","name":"Gofal Cymdeithasol"},{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":3},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":2},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}