{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247098.json"},"data":{"type":"petition","id":247098,"attributes":{"action":"Dylid ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gryfhau cyfreithiau llygredd afonydd, profion annibynnol a phrofion amser real","background":"Roedd cynigion Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026 ar gyfer llywodraethu dŵr yn gam i’w groesawu tuag at sicrhau bod ein hafonydd yn lanach, bod rheoleiddio cryfach a bod gwell atebolrwydd ar waith. Mae angen rhagor o weithredu ledled Cymru, fodd bynnag. Gall llygredd ddigwydd rhwng samplau wedi'u hamserlennu, tra gall cwmnïau ac eraill sy’n drwyddedig i ollwng dŵr fonitro eu gollyngiadau eu hunain. Mae angen gwirio annibynnol cryfach ar Gymru, canfod cyflymach a rhybuddion cyhoeddus tryloyw pan fydd llygredd yn arwain at fod dŵr yn anniogel.","additional_details":"Mae'r ddeiseb hon yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau afonydd glanach, rheoleiddio cryfach a gwell atebolrwydd, ond mae'n galw am gamau mwy pendant ledled Cymru.\r\n\r\nNi ddylai cwmnïau, ffatrïoedd, ffermydd a sefydliadau eraill sydd â chaniatâd i ollwng dŵr i ddyfroedd Cymru ddibynnu'n llwyr ar eu profion eu hunain. Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru neu labordai annibynnol achrededig gynnal gwaith samplu a gwiriadau rheolaidd a heb rybudd, ac archwilio gollyngiadau, yn enwedig mewn safleoedd risg uwch.\r\n\r\nDylai Cymru arolygu’n fwy aml, a phan fo’n ymarferol, monitro afonydd a dyfroedd mewndirol yn barhaus, a chyhoeddi rhybuddion cyhoeddus cyflym pan fydd llygredd yn arwain at fod dŵr yn anniogel. Dylai'r Llywodraeth adolygu a yw dosbarthiadau hanesyddol neu ddosbarthiadau treigl yn amddiffyn yn ddigonol bobl sy'n defnyddio dŵr ar ddiwrnod penodol.\r\n\r\nDylai data monitro fod yn dryloyw ac ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd, a dylid sicrhau gwell gorfodaeth o ran torri rheolau. Dylai'r camau hyn fod yn gymwys yn gyson ledled Cymru, waeth beth fo'r lleoliad neu ffynhonnell y llygredd.","state":"open","signature_count":21,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-23T10:36:50.212Z","updated_at":"2026-08-26T20:46:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-26T14:24:32.244Z","closed_at":"2026-10-31T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-23T10:58:30.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Andrew Bury","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":20},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":13},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":2},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}