{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247101.json"},"data":{"type":"petition","id":247101,"attributes":{"action":"Dylid cyflwyno TGAU Astudiaethau Natur yng Nghymru","background":"Mae TGAU Astudiaethau Natur yn cael ei gyflwyno yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Yn Lloegr bydd yn rhoi cyfle i wneud 20 awr o waith maes i astudio a chysylltu â natur. Bydd yn datblygu sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ecolegol y bydd eu hangen ar unigolion mewn byd sy'n newid. Bydd o gymorth i lesiant pobl ifanc, sy'n ffynnu drwy wneud gweithgareddau ymarferol yn yr awyr agored. Ar ben hynny, mae astudio ecosystemau wedi'i ddileu o'r cymhwyster TGAU Daearyddiaeth newydd, a elwir 'Gwnaed yng Nghymru', ac mae hyn yn gadael bwlch.","additional_details":"Ysgrifennodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd at Gymwysterau Cymru ar 20 Hydref 2025 ar ôl clywed pryderon nad yw manyleb cymhwyster TGAU newydd CBAC bellach yn cynnwys tectoneg platiau ac ecosystemau. Er bod sylw i'r cynnwys hwn yn y manylebau gwyddoniaeth cyfredol, mae’n digwydd o safbwynt gwyddoniaeth yn hytrach nag o safbwynt daearyddiaeth. Felly, nid oes dim, neu ychydig iawn o ystyriaeth sydd, o effeithiau dynol ar ecosystemau, a rheolaeth ecosystemau. \r\nDywedwyd wrtha i unwaith, os nad yw plentyn yn cael profiad o fyd natur cyn iddo fod yn 12 mlwydd oed, na fydd yn gwneud hynny fel oedolyn, a dywedodd seicolegydd plant wrtha i yn ddiweddar pa mor bwysig yw i blentyn yn ei arddegau ymgysylltu â natur er mwyn ei lesiant. Rydym mewn argyfwng natur ac argyfwng hinsawdd, ac mae llifogydd, sychder a diogelwch bwyd yn effeithio arnom. Mae un o bob pum rhywogaeth bellach mewn perygl o fynd yn ddiflanedig. Mae Cymru a'r DU ymhlith y cenhedloedd sydd wedi'u disbyddu fwyaf o ran natur. Mae ein heconomi yn dibynnu arno. Mae addysg yn hanfodol ac allweddol i sicrhau newid.\r\n","state":"open","signature_count":11,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-24T20:49:15.712Z","updated_at":"2026-09-01T21:01:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-01T11:42:41.468Z","closed_at":"2027-03-01T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-24T21:30:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Carolyn Thomas","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":11}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":3},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":7}],"signatures_by_region":[]}}}