{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247115.json"},"data":{"type":"petition","id":247115,"attributes":{"action":"Ysbyty Cyffredinol ar gyfer Powys","background":"Powys yw'r sir fwyaf yng Nghymru ac mae'n sir wledig yn bennaf, sy'n dibynnu llawer ar hyn o bryd ar Fyrddau Iechyd y tu allan i'r sir.\r\nAr hyn o bryd rydym yn ymwybodol o oedi mewn darpariaeth drawsffiniol ac anawsterau ariannu; a gostyngiadau o ran oriau mewn unedau mân anafiadau.\r\nAr hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn ystyried awgrymiadau a dulliau o arbed £23 miliwn.\r\nGallai'r cynigion hyn arwain at ostyngiad yn y ddarpariaeth ofal yn y sir. DYLEN NI FOD YN EDRYCH AR GYNYDDU’R DDARPARIAETH NID GOSTYNGIAD.","additional_details":"Ar hyn o bryd nid oes gan Bowys fel sir unrhyw ddarpariaeth ysbyty cyffredinol.\r\nMae pob mater brys a gofal iechyd mawr yn cael ei drin y tu allan i'r sir.\r\nGyda’r cyfrif gwelyau y pen ar hyn o bryd yn tua 1.2 fesul 1,000 o drigolion, mae hyn yn hanner cyfartaledd y DU o 2.4. Mae'n debygol y bydd y ddarpariaeth hon mewn gwelyau yn lleihau ymhellach os daw'r cynnig gofal iechyd dwy uned i rym. (Y Drenewydd ac Aberhonddu).\r\nByddai Ysbyty Cyffredinol:\r\nyn cynyddu'r ddarpariaeth gwelyau ym Mhowys, yn lleihau amseroedd teithio.\r\nyn lleihau'r ddibyniaeth ar welyau y tu allan i'r sir.\r\nhefyd yn lleihau'r prinder gwelyau presennol yn y sir sydd ar hyn o bryd yn blocio gwelyau mewn byrddau iechyd eraill, oherwydd prinder gwelyau ym Mhowys.\r\nCyfaddefiad y Bwrdd ei hun yw bod angen 400 o welyau ar y sir, ac ar hyn o bryd mae tua 160!!!\r\nOs byddai'n cael ei weithredu’n gywir, efallai y gallai’r Bwrdd hyd yn oed gynnig lle mewn gwelyau i fyrddau iechyd cyfagos y mae pob ysbyty yn erfyn amdano, gan gynhyrchu incwm!!\r\nDylen ni fod yn chwilio am resymau pam y dylid cynyddu darpariaeth gofal iechyd Powys.","state":"open","signature_count":71,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-02T17:06:38.867Z","updated_at":"2026-09-07T16:38:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-07T14:03:30.937Z","closed_at":"2027-03-07T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-02T17:46:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Richard Hall","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":71}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":1},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":44},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":26}],"signatures_by_region":[]}}}