{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247117.json"},"data":{"type":"petition","id":247117,"attributes":{"action":"Ystyried hyblygrwydd yn y cynllun gofal plant 12.5 awr a ariennir ar gyfer pob plentyn 2 oed ledled Cymru.","background":"Fel rhieni sy’n gweithio ac sy’n defnyddio darpariaeth ffurfiol meithrinfa ddau ddiwrnod yr wythnos yn unig, mae'r rheol gofal plant 12.5 awr bresennol yn gwbl anhygyrch.\r\n\r\nMae cyfyngu oriau a ariennir i slotiau dyddiol anhyblyg o 2.5 awr, dros bum niwrnod, yn ein gorfodi i gynyddu oriau meithrinfa neu golli ein hawl i ofal plant.\r\n\r\nMae’r polisi’n siomi teuluoedd sy’n gweithio drwy wrthod gadael i’r oriau hanfodol hyn a ariennir gael eu cywasgu i’n hamserlenni meithrin presennol.","additional_details":"Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r canllawiau statudol ar gyfer cynlluniau gofal plant a ariennir, yn benodol Dechrau’n Deg, er mwyn caniatáu i'r 12.5 awr wythnosol gael eu darparu’n hyblyg, yn hytrach na’u cyfyngu i 2.5 awr y dydd dros 5 diwrnod.\r\n\r\nMae'r strwythur 5 diwrnod anhyblyg presennol yn gorfodi rhieni sy’n gweithio i anfon eu plant i feithrinfa am 5 diwrnod yr wythnos, dim ond i gael mynediad at eu hawl gyfreithiol.\r\n\r\nMae’r cynllun yn cosbi teuluoedd sy’n defnyddio meithrinfa 4 diwrnod neu lai yr wythnos, ac sy’n gweithio ochr yn ochr â phatrymau sifftiau hyblyg y byd gwaith modern.\r\n\r\nByddai caniatáu i awdurdodau lleol a darparwyr gael y rhyddid i gywasgu'r 12.5 awr hyn i lai o ddiwrnodau, a rhai hirach, yn cael gwared ar y rhwystrau hyn.\r\n\r\nBydd yn sicrhau y gall rhieni sy’n gweithio ddefnyddio’r gofal a’r gefnogaeth a ariennir, sydd ar gael iddynt, i’r eithaf, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd economaidd yr aelwyd. Rydym o’r farn y byddai gwneud hynny yn annog canlyniadau datblygiadol cryfach i blant. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i foderneiddio’r polisi hwn i gefnogi bywyd gwaith cyfoes.\r\n","state":"open","signature_count":45,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-04T21:15:19.611Z","updated_at":"2026-09-09T12:35:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-08T14:42:46.347Z","closed_at":"2027-03-08T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-05T13:51:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Shahrabun Chapman","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Awstralia","code":"AU","signature_count":1},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":41},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":5},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":7},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":20},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":6},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}