{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247121.json"},"data":{"type":"petition","id":247121,"attributes":{"action":"Rhoi pwerau cyflymach a chryfach i gynghorau i atal dympio anghyfreithlon a datblygu anawdurdodedig.","background":"Mae cymunedau ledled Cymru yn gweld tir yn cael ei glirio, rwbl a gwastraff yn cael eu tipio, a llwybrau mynediad yn cael eu creu dros benwythnos, a hynny heb rybudd na chaniatâd cynllunio. Erbyn i gamau gorfodi gael eu cyflawni, bydd y drwg wedi cael ei wneud. Gellir apelio yn erbyn hysbysiadau, mae pwerau dros dro yn mynd yn ddi-rym ar ôl 28 diwrnod, ac mae gwaharddebau’n gofyn am amser ac arian cyhoeddus sydd weithiau y tu hwnt i awdurdodau lleol.","additional_details":"Mae Coedpoeth a'r Mwynglawdd wedi dioddef oherwydd gwaith anawdurdodedig a gwastraff yn cael ei ddympio’n anghyfreithlon ar gyn-weithfeydd mwyngloddio ger tirwedd warchodedig, gyda lorïau'n tipio gwastraff yn ystod y nos. Mae hyd yn oed hysbysiadau stop dros dro wedi methu ag atal hyn, sy’n dangos nad yw pwerau gorfodi cynllunio yn addas at y diben. Mae’r un patrwm i’w weld ledled cefn gwlad Cymru.\r\n\r\nMae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mesurau yn Lloegr i gau safleoedd gwastraff anghyfreithlon, gan gynnwys dronau, mwy o swyddogion i Asiantaeth yr Amgylchedd, a dirwyon llawer uwch. Mae gwastraff a chynllunio yn feysydd datganoledig, felly mae modd i Lywodraeth Cymru gymryd camau tebyg a chau'r bwlch cynllunio sy'n gadael i safleoedd o'r fath agor yn y lle cyntaf.\r\n\r\nRydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i gryfhau camau gorfodi ym maes cynllunio, gan gynnwys: hysbysiadau stop estynadwy; dileu cyd-fantoli risg; cosbau llymach, gyda phwerau i atafaelu cerbydau; adennill costau ar gyfer adfer; a dyletswydd i gydweithio ar awdurdodau, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r heddlu.\r\n","state":"open","signature_count":394,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-09T09:17:01.340Z","updated_at":"2026-09-15T19:04:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-15T12:33:08.248Z","closed_at":"2027-03-15T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-09T11:06:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-15T17:09:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Andrew Ranger","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":379},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":13},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":1},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":2},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":3},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":1},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":8},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":338},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":19},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}