{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247128.json"},"data":{"type":"petition","id":247128,"attributes":{"action":"Goruchwyliaeth Annibynnol a Safonau Cryfach ynghylch Tystiolaeth yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Cymru","background":"Mae angen safonau cryfach ynghylch tystiolaeth, dull tryloyw o gadw cofnodion a goruchwyliaeth wirioneddol annibynnol ar y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen diwygiadau i sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a theuluoedd yn atebol, yn cydymffurfio â hawliau, yn ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar dystiolaeth gywir a fu’n destun gwaith craffu priodol.","additional_details":"Mae'r prif newidiadau sydd eu hangen i gryfhau fframwaith y gwasanaethau cymdeithasol yn cynnwys:\r\n\r\n• Safonau clir ynghylch tystiolaeth sy'n gwahaniaethu rhwng ffeithiau sydd wedi eu dilysu, honiadau y mae anghytuno yn eu cylch a barn gweithwyr proffesiynol.\r\n\r\n• Cyfle ystyrlon i rieni gyfranogi, mynediad amserol at gofnodion, a gwaith effeithiol i graffu ar anghysondebau ffeithiol cyn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd teuluol.\r\n\r\n• Prosesau goruchwylio ac adolygu gwirioneddol annibynnol pan fo tystiolaeth graidd neu gasgliadau proffesiynol yn cael eu herio.\r\n\r\n• Dull manwl gywir o gofnodi ac ystyried dymuniadau a theimladau plant a’u perthnasoedd teuluol.\r\n\r\n• Dyletswyddau statudol clir sy'n cefnogi tryloywder, mynediad at dystiolaeth a hawliau gweithdrefnol.\r\n\r\n• Mynediad at arbenigwyr cam-drin domestig annibynnol sydd wedi'u hyfforddi'n addas ar gyfer achosion perthnasol, gan gefnogi arfer cyfredol sy'n ystyriol o drawma.\r\n\r\nDylai'r broses weithredu gynnwys dyletswyddau statudol cryfach, canllawiau cadarn i ymarferwyr, hyfforddiant gorfodol ar werthuso tystiolaeth, ac amserlenni rhesymol i deuluoedd herio’r cofnodion sylfaenol.\r\n","state":"open","signature_count":3,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-14T21:01:21.688Z","updated_at":"2026-09-23T13:07:04.605Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-23T13:07:04.600Z","closed_at":"2027-03-23T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-15T09:22:10.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Alisha Chantelle Wilson","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":1},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}