{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247140.json"},"data":{"type":"petition","id":247140,"attributes":{"action":"Galluogi GIG Cymru i Greu Partneriaeth â Darparwyr Digidol Cymeradwy i Wella Mynediad at Wasanaethau Fferyllfa.","background":"Mae cleifion yng Nghymru yn haeddu mwy o ddewis, mae fferyllfeydd cymunedol yn haeddu'r offer i ffynnu, ac mae angen lleddfu'r pwysau ar staff y GIG. Yn Lloegr, gall darparwyr cymeradwy gysylltu systemau'r GIG a fferyllfeydd yn ddiogel, gan ddwyn ynghyd bresgripsiynau, cyfathrebu a gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau preifat. Caiff cleifion well mynediad at ofal, mae fferyllfeydd yn lleihau galwadau a gwaith gweinyddol, a gellir darparu mwy o ofal yn lleol, gan helpu i leihau pwysau y gellir ei osgoi ar draws y GIG.","additional_details":"Mae Cymru wedi gwneud cynnydd pwysig drwy Ap GIG Cymru. Nawr, credwn y dylai fynd ymhellach.\r\n\r\nYn Lloegr, gall darparwyr cymeradwy gysylltu systemau'r GIG a fferyllfeydd yn ddiogel. Caiff cleifion fwy o ddewis, gwell gwelededd o ran presgripsiynau, cyfathrebu uniongyrchol â fferyllfeydd a mynediad haws at wasanaethau a ariennir gan y GIG a gwasanaethau preifat.\r\n\r\nMae fferyllfeydd yn elwa hefyd: llai o alwadau, llai o waith gweinyddol, perthnasoedd cryfach â chleifion a'r gallu i gynnig gwasanaethau cysylltiedig o dan eu brand lleol dibynadwy eu hunain. Gall mynediad gwell at wasanaethau fferyllfa hefyd helpu i leddfu pwysau ar feddygon teulu a'r GIG ehangach.\r\n\r\nRydym yn gofyn am fframwaith diogel, agored sydd ar gael i unrhyw ddarparwr sy'n bodloni'r safonau gofynnol, nid mynediad sy’n ffafrio unrhyw gwmni neu gynnyrch.\r\n\r\nPartneriaeth yw hon, nid preifateiddio. Dylai GIG Cymru barhau i fod mewn rheolaeth gadarn, gan osod y safonau, cymeradwyo mynediad a diogelu data cleifion, a rhoi mwy o ddewis i gleifion a chyfle i fferyllfeydd arloesi.\r\n","state":"open","signature_count":22,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-17T15:13:51.852Z","updated_at":"2026-09-22T22:18:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-22T20:23:13.463Z","closed_at":"2027-03-22T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-17T15:21:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Megan Lloyd","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":16},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":3},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":10},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":3},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}