{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247144.json"},"data":{"type":"petition","id":247144,"attributes":{"action":"Gwneud Camerâu a Wisgir ar y Corff yn Orfodol i Weithwyr Cymdeithasol yng Nghymru","background":"Pan fydd penderfyniadau yn gallu newid bywyd plentyn am byth, dylai fod cofnod cywir o'r hyn a ddigwyddodd.\r\n\r\nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud camerâu a wisgir ar y corff yn orfodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n cynnal ymweliadau cartref, ymholiadau amddiffyn plant ac asesiadau teuluol.\r\n\r\nAr hyn o bryd, mae arsylwadau a sgyrsiau hollbwysig yn cael eu cofnodi ar ffurf nodiadau achos, asesiadau ac adroddiadau. Mae plant yn rhy bwysig i benderfyniadau diogelu ddibynnu yn llwyr ar gofio a gwaith papur.","additional_details":"Mae marwolaethau Logan Mwangi yng Nghymru a Sara Sharif yn Lloegr yn ein hatgoffa mewn ffordd ysgytwol pam mae’n rhaid i systemau diogelu greu’r darlun cliriaf a mwyaf cywir posibl o amgylchiadau plentyn.\r\n\r\nGallai camerâu a wisgir ar y corff sicrhau tryloywder hanfodol. Gallent gadw cofnod gwirioneddol o’r hyn mae gweithwyr proffesiynol yn ei weld, gallent nodi anghysondebau mewn adroddiadau dilynol, gallent amddiffyn teuluoedd rhag cofnodi anghywir, a gallent amddiffyn gweithwyr cymdeithasol rhag honiadau ffug.\r\n\r\nOnd, yn anad dim, mae hyn yn ymwneud ag amddiffyn plant.\r\n\r\nMae swyddogion heddlu yn defnyddio camerâu a wisgir ar y corff oherwydd bod tystiolaeth, cywirdeb ac atebolrwydd yn bwysig. Pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn mynd i gartrefi plant ac yn cynnal asesiadau a all ddylanwadu ar benderfyniadau diogelu a fyddai’n newid bywydau, mae'r egwyddorion hynny yr un mor bwysig.\r\n\r\nRhaid i fesurau diogelu priodol amddiffyn preifatrwydd plant a rheoli'n llym sut mae’r recordiadau’n cael eu storio, eu cyrchu a'u defnyddio.\r\nOs yw'n ddigon pwysig i newid bywyd plentyn, mae'n ddigon pwysig i'w gofnodi.\r\n\r\n","state":"open","signature_count":10,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-21T08:53:40.885Z","updated_at":"2026-09-30T12:11:01.940Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-30T12:11:01.931Z","closed_at":"2027-03-30T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-21T10:15:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Margaret Allen","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":9},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":8}],"signatures_by_region":[]}}}