{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247145.json"},"data":{"type":"petition","id":247145,"attributes":{"action":"Dechrau profion wedi’u targedu ar Bridd, Dŵr a Gwaed mewn ardaloedd yng Nghymru sy’n wynebu risg o Fiffenylau Policlorinedig (PCBau) a halogion eraill ","background":"Yn dilyn canfyddiadau'r rhaglen ddogfen ddiweddar gan y BBC, 'Buried', mae wedi gwawrio ar gymunedau ledled Cymru fod tir halogedig ar stepen eu drws.\r\n\r\nMae llawer yn y cymunedau hyn wedi gweld drostynt eu hunain dystiolaeth o safleoedd dympio heb ddim i nodi yn swyddogol bod y tir yn halogedig, a safleoedd lle nad yw data profion ar gael i'r cyhoedd, neu lle nad yw profion yn digwydd.\r\n\r\nMae ein cymunedau'n teimlo eu bod wedi mynd yn angof a’u bod yn ddiymgeledd yn wyneb risg anfesuradwy.","additional_details":"Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio gyda chynghorau lleol i ddechrau cyfundrefn brofi helaeth a phenodol yn y cymunedau sy’n wynebu risg.\r\n\r\nYn benodol, cyfundrefn wedi’i thargedu o brofion tir a dŵr ar gyfer yr ystod lawn o PCBau (PCB 7 a WHO 12) a halogion carsinogenaidd eraill sy'n effeithio ar iechyd, a hynny ochr yn ochr â chyfundrefn fyddai’n profi gwaed gwirfoddolwyr. \r\nTrwy wneud hyn, byddai gan Gymru set ddata sylfaenol glir o lefelau halogiad PCBau yn y cymunedau hynny sy’n wynebu risg.\r\n\r\nMae ein trigolion yn gwybod nad yw profion gwaed ar gyfer PCBau ynddynt eu hunain yn cynnig ateb pendant i’r risg. Byddai caniatáu inni wirfoddoli ar gyfer y math hwn o brofion yn rhoi profion sylfaenol i'r DU (sef rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd) a byddai’n sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru’r data i ateb anghenion iechyd posibl.\r\n\r\nByddai profion penodol ar gyfer tir a dŵr ar safleoedd yr amheuir bod dympio wedi digwydd arnynt yn rhoi'r atebion sydd eu dirfawr angen ar ein cymunedau. Rydym yn haeddu cael eglurder ynghylch y risgiau a allai fod yn llechu o dan ein traed.\r\n","state":"open","signature_count":217,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-21T18:08:28.618Z","updated_at":"2026-09-30T18:28:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-30T10:17:13.979Z","closed_at":"2027-03-30T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-21T18:11:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Katie Witherden","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":209},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":7},{"name":"Sbaen","code":"ES","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":4},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":12},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":8},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":1},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":29},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":23},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":113},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":11},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":2},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}