{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247147.json"},"data":{"type":"petition","id":247147,"attributes":{"action":"Dylid comisiynu adolygiad annibynnol o ddiogelwch cleifion yn ystod argyfyngau iechyd meddwl acíwt yng Nghymru","background":"Rwy'n galw am yr adolygiad hwn yn dilyn dwy farwolaeth a gofnodwyd ac achos difrifol a fu bron â digwydd, yn ymwneud â phobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl acíwt, gan gynnwys pryderon yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor. Mae'r ddeiseb hon yn ymwneud â diogelwch cleifion ac atal: a sicrhau asesiad risg cadarn, goruchwyliaeth briodol, mewnbwn iechyd meddwl arbenigol a mynediad diogel at ofal gan barchu urddas a hawliau cyfreithiol cleifion.","additional_details":"Roedd un o'r marwolaethau yr adroddwyd yn ei chylch yn ymwneud â fy ffrind gorau. Rwyf wedi darparu tystiolaeth ar wahân i'r Crwner ac wedi codi pryderon ynghylch diogelwch cleifion gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.\r\n\r\nRwy'n gofyn am adolygiad annibynnol o ran a yw'r systemau presennol yn ddigon cadarn, gan gynnwys asesiadau risg, ystyried capasiti lle bo'n berthnasol, rhannu gwybodaeth, asesiadau iechyd meddwl arbenigol, goruchwyliaeth a gweithdrefnau pan fydd claf agored i niwed yn gadael adran achosion brys.\r\n\r\nRwy'n credu bod y digwyddiadau hyn yr adroddwyd yn eu cylch yn amlygu bod angen adolygiad annibynnol i weld a oes risgiau neu fylchau cyffredin yn y systemau ar hyn o bryd ar gyfer amddiffyn pobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl acíwt yng Nghymru, fel y gellir nodi gwersi priodol ac atal rhagor o niwed.\r\n","state":"open","signature_count":58,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-23T07:58:27.222Z","updated_at":"2026-09-30T18:18:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-30T10:21:00.681Z","closed_at":"2027-03-30T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-23T09:40:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Miss Kelly Louise Huish","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd-meddwl","name":"Iechyd Meddwl"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":52},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":6}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":1},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":7},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":3},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":1},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":2},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":2},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":30}],"signatures_by_region":[]}}}