{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247153.json"},"data":{"type":"petition","id":247153,"attributes":{"action":"Cyfleusterau noddfa i fabanod ledled Cymru – diogel, preifat a chyfrinachol","background":"Gall rhai rhieni deimlo eu bod ar ben eu tennyn ac na allant ofalu am eu babanod newydd-anedig. Dylai fod gan Gymru opsiwn diogel a chyfrinachol lle gellir trosglwyddo baban yn ddiogel i weithwyr proffesiynol hyfforddedig i gael gofal brys.\r\n","additional_details":"Mae blychau a gwasanaethau noddfa eisoes yn bodoli mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Dylai Cymru ymchwilio i'r modelau hyn ar frys ac ystyried a ellid cyflwyno system debyg yma.\r\n\r\nDylai rhieni mewn argyfwng gael lle diogel i fynd â'u babanod newydd-anedig, 24 awr y dydd, gyda gofal meddygol brys ar gael i'r baban a chefnogaeth briodol i'r rhiant.\r\n\r\nDylai mynediad fod yn ddienw neu'n gyfrinachol, lle bo modd cynnig hynny o dan y gyfraith, gyda gweithdrefnau diogelu cryf yn eu lle.\r\n\r\nRwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r mater hwn yn llawn, gan ymgynghori ag arbenigwyr a chymryd camau tuag at sefydlu gwasanaeth noddfa yng Nghymru. Os gall y gwasanaethau hyn weithredu mewn mannau eraill, dylai Cymru ystyried o ddifrif a allwn achub bywydau yma hefyd.\r\n\r\nY nod yw darparu opsiwn diogel arall mewn argyfwng a helpu i atal babanod newydd-anedig rhag cael eu gadael mewn amgylchiadau anniogel.\r\n","state":"open","signature_count":3,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-29T13:19:40.290Z","updated_at":"2026-10-14T06:50:01.517Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-10-14T06:50:01.500Z","closed_at":"2027-04-14T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-29T14:05:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Lowri Hughes","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}