{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247157.json"},"data":{"type":"petition","id":247157,"attributes":{"action":"Mynnu labelu clir i ddangos a gafodd anifeiliaid eu stynio ai peidio cyn eu lladd","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno labelu gorfodol ar yr holl gig sy’n cael ei werthu yng Nghymru i nodi a gafodd yr anifail ei stynio ai peidio cyn ei ladd. Mae'r Awdurdod Safonau Bwyd eisoes yn cofnodi statws stynio ym mhob lladd-dy cymeradwy trwy Filfeddygon Swyddogol, archwiliadau a chamau i fonitro lles.\r\n\r\nFodd bynnag, ni chaiff y wybodaeth hon ei throsglwyddo i ddefnyddwyr. Mae hwn yn fater clir o les anifeiliaid sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd.","additional_details":"Mae labelu bwyd wedi'i ddatganoli i Gymru, sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i weithredu'n annibynnol. Felly, mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i fod ar flaen y gad yn foesegol drwy sicrhau tryloywder, gwella dewis i ddefnyddwyr, a dangos ymrwymiad i leihau creulondeb yn y gadwyn fwyd. Byddai labelu gorfodol i ddangos statws stynio yn:\r\n\r\ndarparu gwybodaeth glir a gonest i ddefnyddwyr;\r\n\r\ngwella tryloywder ynghylch lles anifeiliaid;\r\n\r\ncaniatáu i bobl wneud dewisiadau moesegol gwybodus;\r\n\r\ndefnyddio ddata sydd eisoes wedi'u casglu mewn lladd-dai;\r\n\r\ndangos Cymru fel cenedl sy'n barod i arwain ar safonau lles.\r\n\r\nNid yw'r cynnig hwn yn cyfyngu ar ladd anifeiliaid ar seiliau crefyddol. Yn syml, mae’n sicrhau bod defnyddwyr yn cael y wybodaeth berthnasol.\r\n\r\nGofynnwn i Lywodraeth Cymru adolygu'r mater hwn a chyflwyno gofyniad cymesur i labelu mewn ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel y gall pobl yng Nghymru wneud dewisiadau cwbl wybodus am y bwyd maen nhw'n ei brynu.\r\n","state":"open","signature_count":5,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-05T10:40:44.453Z","updated_at":"2026-10-14T06:47:57.205Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-10-14T06:47:57.200Z","closed_at":"2026-12-25T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-05T19:03:30.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Peter John Bull","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"amaethyddiaeth","name":"Amaethyddiaeth Coedwigaeth a Bwyd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":5}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":5}],"signatures_by_region":[]}}}