{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247162.json"},"data":{"type":"petition","id":247162,"attributes":{"action":"Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag ESTYN i leihau pwysedd a disgwyliadau yn ystod arolygiadau ESTYN ar gyfer darparwyr addysg feithrin nas cynhelir yng Nghymru. ","background":"Mae ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ledled Cymru yn gwbl ymroddgar i feithrin ac addysgu plant ifanc. Gall y pwysedd a'r disgwyliadau sy'n ymwneud ag arolygiadau Estyn, fodd bynnag, achosi straen meddyliol a chorfforol sylweddol, gan gynnwys pryder, nosweithiau di-gwsg, blinder a cholli hyder. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ESTYN i sicrhau dull tecach, mwy cefnogol a chymesur sy'n cynnal safonau uchel ac ar yr un pryd yn diogelu lles ymarferwyr ac yn cydnabod realiti addysg y blynyddoedd cynnar.","additional_details":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru ac ESTYN i ddiwygio arolygiadau ar gyfer darparwyr addysg feithrin nas cynhelir yng Nghymru, a rhoi mwy o ystyriaeth i lesiant staff. Mae angen i arolygiadau roi darlun teg o leoliad, gan gydnabod na ellir dangos lefel ddysgu a datblygiad plant yn deilwng o fewn amser arsylwi byr. Rydym eisiau gweld disgwyliadau clir a chyson, gofynion cymesur o ran tystiolaeth, adborth adeiladol a ffocws ar wella. Gall ofn, a phwysedd o ran canlyniadau arolygiadau beri i ymarferwyr profiadol ac angerddol amau eu galluoedd a'u hyder. Gall hyn effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles corfforol, ac ar foràl staff a lefelau cadw staff. Nid ydym yn gofyn am safonau is na llai o atebolrwydd. Rydyn ni eisiau dull sy'n diogelu plant ac yn trin y gweithlu â thegwch, tosturi a pharch. Mae'r rhai sy'n gofalu am ein plant ieuengaf yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi, ac y gallant ffynnu.\r\n","state":"open","signature_count":7,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-11T18:04:35.481Z","updated_at":"2026-10-18T15:48:51.219Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-10-18T15:48:51.211Z","closed_at":"2027-04-18T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-11T18:08:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"G R","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":7}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":7}],"signatures_by_region":[]}}}