{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247166.json"},"data":{"type":"petition","id":247166,"attributes":{"action":"Cael gwared yn raddol ar wisg ysgol plastig diangen a chefnogi'r defnydd o wlân Cymreig a ffibrau naturiol.","background":"Mae miloedd o blant Cymru yn gwisgo gwisg ysgol sydd wedi'i gwneud yn bennaf o polyester, sef plastig sy'n deillio o danwydd ffosil. Wrth i bryderon gynyddu ynghylch llygredd microplastigion, dylai Cymru arwain y ffordd drwy gefnogi ffibrau naturiol. Mae gwlân Cymru yn ddeunydd sy’n adnewyddadwy, yn para, yn gynnes ac yn fioddiraddadwy. Gallai symud tuag at wisgoedd ysgol o wlân Cymreig gefnogi ffermwyr Cymru, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a lleihau dibyniaeth ar ddillad plastig.","additional_details":"Mae plant yng Nghymru yn gwisgo gwisg ysgol am tua 190 diwrnod ysgol bob blwyddyn, ond mae llawer o wisgoedd wedi'u gwneud yn bennaf o polyester, plastig sy'n deillio o danwydd ffosil. Mae ymchwil i decstilau synthetig yn dangos eu bod yn rhyddhau microplastigion wrth eu gwisgo, eu golchi a'u sychu, gan gyfrannu at lygredd amgylcheddol (Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd 2022). Mae microplastigion wedi cael eu canfod yng ngwaed, ysgyfaint a meinwe brych dynol, gyda thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu effeithiau posibl ar iechyd anadlol, treulio ac atgenhedlu, ond mae angen gwaith ymchwil pellach (WHO, 2022; Black et al., 2024).\r\n\r\nMae Cymru eisoes yn cynhyrchu dewis amgen cynaliadwy. Mae gwlân Cymreig yn ddeunydd sy’n adnewyddadwy, yn fioddiraddadwy, yn naturiol gynnes ac yn gwrthsefyll arogleuon. Gallai cynyddu'r defnydd o wlân a blendiau chotwm Cymreig mewn gwisgoedd ysgol leihau llygredd plastig, gan gefnogi ffermwyr, cymunedau gwledig a chadwyni cyflenwi lleol yng Nghymru.\r\n\r\nPam mae plant Cymru yn gwisgo plastig pan mae Cymru'n cynhyrchu gwlân?\r\n","state":"open","signature_count":5,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-14T10:08:36.567Z","updated_at":"2026-10-18T15:52:12.365Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-10-18T15:52:12.343Z","closed_at":"2027-04-18T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-14T14:49:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Owain Elis Dolan Gray","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":5}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":4}],"signatures_by_region":[]}}}