{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247169.json"},"data":{"type":"petition","id":247169,"attributes":{"action":"Capio Prisiau Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghymru","background":"Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol ar gyfer cael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd a bywyd cymunedol, ond mae prisiau tocynnau’n parhau i fod yn anfforddiadwy i lawer o bobl ledled Cymru. Er bod gan rai pobl fynediad at gynlluniau gostyngol, mae mwyafrif pobl yng Nghymru yn wynebu prisiau heb gap a phrisiau sy'n codi. Mae costau trafnidiaeth cynyddol yn cyfyngu ar gyfleoedd a chyfranogiad mewn cymdeithas. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cap cenedlaethol ar brisiau trafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau teithio fforddiadwy a hygyrch i bawb yng Nghymru.","additional_details":"Tynnodd Sustrans Cymru (Walk Wheel Cycle Trust bellach) sylw at broblem gynyddol tlodi trafnidiaeth yng Nghymru mewn adroddiad ymchwil yn 2022. Gwelodd, dros y degawd blaenorol, fod prisiau tanwydd wedi cynyddu llai na 10%, tra bod prisiau trenau, coetsys a bysiau wedi codi rhwng 33% a 74%, gan roi mwy o bwysau ar aelwydydd sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rhybuddiodd yr adroddiad fod costau trafnidiaeth cynyddol yn peryglu gwahardd pobl rhag cael cyflogaeth, addysg a gwasanaethau hanfodol eraill. Ers hynny, mae costau trafnidiaeth wedi parhau i roi pwysau ar gyllidebau aelwydydd. Nododd ymgynghoriadau cymunedol, gan gynnwys yr Ymgynghoriad Hinsawdd a drefnwyd gan Rwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig Hinsawdd Cymru ym mis Mawrth 2026, hefyd fod fforddiadwyedd trafnidiaeth yn bryder mawr. Adroddodd sefydliadau sy'n cynrychioli cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol fod costau teithio yn cyfyngu ar fynediad at gyfleoedd a chyfranogiad mewn cymdeithas, yn enwedig i gymunedau lleiafrifoedd ethnig, aelwydydd incwm isel a'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.\r\n","state":"open","signature_count":9,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-14T14:58:49.140Z","updated_at":"2026-10-25T18:50:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-10-25T18:49:09.496Z","closed_at":"2027-04-25T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-14T15:25:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Climate Cymru Ethnic Minorities Network","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":9}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":2},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":3},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}