{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247173.json"},"data":{"type":"petition","id":247173,"attributes":{"action":"ACHUB WARD LANSDOWNE – DIOGELU GOFAL HANFODOL AR GYFER POBL HŶN","background":"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrthi'n cynnal proses ymgysylltu ac ymgynghori fewnol gyda staff mewn perthynas â newidiadau i’r gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Cymunedol Dewi Sant, gan gynnwys cynnig i gau Ward Lansdowne.\r\n\r\nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i atal y bwrdd rhag cau Ward Lansdowne. Nid yw’r gofal a ddarperir i gleifion hŷn yn dod i ben wrth iddynt adael ysbyty cyffredinol. Mae angen gwasanaethau adsefydlu arbenigol arnynt, ynghyd ag urddas, tosturi ac amser i wella'n ddiogel.\r\n\r\nMae'r tîm rhagorol sy’n gweithio yn Ward Lansdowne yn cydweithio er mwyn helpu cleifion i adennill eu hannibyniaeth, dychwelyd adref yn ddiogel gyda'r gofal sydd ei angen arnynt, neu symud i gartref nyrsio priodol. Rydym yn bodloni'r safonau gofynnol ac yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i gleifion.","additional_details":"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i’r cynllun i gau Ward Lansdowne, gan fynnu atebion ynghylch ble bydd y cleifion oedrannus hyn, sy’n agored i niwed, yn mynd. Pa welyau a gwasanaethau adsefydlu amgen fydd ar gael? Sut fydd eu diogelwch, eu hurddas a'u hadferiad yn cael eu diogelu? Dylech sicrhau bod asesiad effaith llawn yn cael ei gynnal cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud. Mae ein cleifion oedrannus yn haeddu atebion, diogelwch a'r gofal sydd ei angen arnynt.\r\n","state":"open","signature_count":383,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-20T07:43:32.896Z","updated_at":"2026-11-02T21:55:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-02T13:23:12.375Z","closed_at":"2027-05-02T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-20T08:45:20.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-11-02T18:04:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"JULIE","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Canada","code":"CA","signature_count":1},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":372},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":9},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":6},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":19},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":70},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":131},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":9},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":107},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":21},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":4}],"signatures_by_region":[]}}}