{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247176.json"},"data":{"type":"petition","id":247176,"attributes":{"action":"Caniatáu i ddioddefwyr syndrom polyendocrin metabolaidd ofarïaidd (PMOS) gael mynediad at feddyginiaeth GLP-1 drwy’r GIG","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bobl gymwys sy’n dioddef o PMOS (a elwid gynt yn syndrom ofarïau polycystig, neu PCOS) fynediad teg at feddyginiaeth GLP-1 drwy’r GIG. Gall y cyflwr hormonaidd a metabolaidd cymhleth hwn achosi ymwrthedd i inswlin a chynyddu'r risg o ddiabetes math 2. Ni ddylai menywod orfod aros i'w hiechyd ddirywio cyn cael triniaeth briodol. Dylai mynediad fod yn seiliedig ar angen clinigol, yn hytrach na statws diabetes yn unig, a hynny er mwyn atal cymhlethdodau a lleihau anghydraddoldebau iechyd.","additional_details":"Mae canllawiau 2023 ar PCOS, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, yn nodi y gellir ystyried meddyginiaethau rheoli pwysau, gan gynnwys semaglwtid a liraglwtid, ar gyfer oedolion sy’n dioddef o PCOS, ochr yn ochr ag ymyriadau o ran ffordd o fyw, yn dilyn asesiad clinigol. Mae'r canllawiau yn cydnabod effeithiau metabolaidd, cardiofasgwlaidd a seicolegol ehangach y cyflwr hwn, sy'n aml yn cael ei dan-gydnabod. Ar hyn o bryd, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn pennu meini prawf cymhwystra penodol ar gyfer meddyginiaethau rheoli pwysau a geir drwy'r GIG. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu'r meini prawf hyn fel y gellir ystyried pobl gymwys sy’n dioddef o PCOS, ynghyd â risgiau metabolaidd sylweddol, ar gyfer triniaeth, hyd yn oed os nad oes ganddynt ddiabetes. Ni ddylai menywod orfod aros am gymhlethdodau y gellir eu hatal cyn cael gofal priodol. Dylai mynediad gynnwys asesiadau arbenigol, monitro a chymorth parhaus, gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth ac angen clinigol.\r\n","state":"open","signature_count":21,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-23T16:46:52.891Z","updated_at":"2026-11-03T19:13:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-03T13:49:03.665Z","closed_at":"2027-05-03T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-23T20:44:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Sarah Leanne McEachran","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":19},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":3},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":2},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":2},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":11}],"signatures_by_region":[]}}}