{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247178.json"},"data":{"type":"petition","id":247178,"attributes":{"action":"Ei gwneud yn ofyniad gorfodol i adrodd ar ganlyniadau sganiau canser o fewn 5 diwrnod gwaith","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad gorfodol i sicrhau bod canlyniadau pob sgan sy’n ymwneud â chanser, o’r sganiau a gynhelir yn ystod y broses ddiagnostig gychwynnol i’r sganiau monitro a dilynol, yn cael eu hadrodd o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddai hyn yn helpu i atal oedi cyn trafodaethau timau amlddisgyblaethol (MDT) a chyn dechrau triniaeth neu wneud penderfyniadau am driniaeth.","additional_details":"Mae diagnosis o ganser yn effeithio ar y claf a’i deulu cyfan. Drwy gydol y daith, o’r diagnosis cychwynnol i’r monitro dilynol am ledaeniad posibl, mae’r amser a gymerir i adrodd ar ganlyniadau sganiau yn anghyson. Mae’r aros, y pryder a’r ansicrwydd yn rhoi straen enfawr ar iechyd meddwl cleifion a’u hanwyliaid.\r\n\r\nGyda thua un o bob dau berson yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes, mae’n amlwg bod angen gwella’r system bresennol.  Gall oedi cyn cael canlyniadau sganiau ohirio penderfyniadau timau amlddisgyblaethol (MDT), apwyntiadau dilynol a dechrau triniaeth.\r\n\r\nMae cleifion a’u teuluoedd yn haeddu gwell. Byddai cyflwyno gofyniad gorfodol i adrodd ar ganlyniadau sganiau canser o fewn 5 diwrnod gwaith yn helpu i gyflymu penderfyniadau clinigol, lleihau oedi diangen a lleddfu’r baich emosiynol, gan gyfrannu at ofal mwy amserol a chanlyniadau gwell i gleifion.","state":"open","signature_count":105,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-25T20:23:01.839Z","updated_at":"2026-11-02T12:14:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-02T09:20:08.740Z","closed_at":"2027-05-02T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-25T20:38:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Catrin Angharad Jenkins","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Awstralia","code":"AU","signature_count":5},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":100}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":1},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":3},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":2},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":68},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":1},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":20}],"signatures_by_region":[]}}}