{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247183.json"},"data":{"type":"petition","id":247183,"attributes":{"action":"Adolygu oedrannau sgrinio am ganser y fron yng Nghymru a gwella canfod canser yn gynnar a mynediad i fenywod o dan 50 oed","background":"Cefais ddiagnosis o ganser ymledol y fron Gradd 3 pan oeddwn i ond yn 42 oed. Yng Nghymru, mae sgrinio arferol am ganser y fron yn dechrau ar ôl i fenywod droi’n 50 oed, ond mae menywod iau yn gallu datblygu canser y fron hefyd. Roedd tua 13% o ddiagnosau canser y fron yng Nghymru rhwng 2020 a 2022 yn ymwneud â menywod o dan 50 oed. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cymhwystra ar gyfer sgrinio i fenywod o 30 oed ymlaen, gan gynnwys sgrinio yn seiliedig ar risg a gwell ymwybyddiaeth. Mae pob menyw yn haeddu'r cyfle i ganser gael ei ganfod yn gynnar, ni waeth beth fo'i hoedran.","additional_details":"Yn ôl yr Archwiliad Cenedlaethol o Ganser Cynradd y Fron yn 2025, roedd tua 13% o ddiagnosau canser y fron yng Nghymru rhwng 2020 a 2022 yn ymwneud â menywod o dan 50 oed, gan gynnwys tua 3% ar gyfer menywod o dan 40 oed.\r\n\r\nMae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod canser y fron yn effeithio ar fenywod na fydd y GIG yn eu gwahodd ar gyfer sgrinio fel mater o drefn.\r\nRwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gymhwystra ar gyfer sgrinio o 30 oed ymlaen, gan ystyried dulliau sgrinio sy'n briodol i oedran, asesiadau risg unigol, a mynediad cynharach i fenywod sy’n fwy tebygol o gael canser y fron.\r\n\r\nRwyf hefyd am weld addysg well am ganser y fron, mwy o ymwybyddiaeth o’r symptomau, ac asesiad amserol i fenywod iau sydd â phryderon ynghylch canser y fron.\r\n\r\nDylai unrhyw adolygiad ystyried manteision sgrinio, a’r niwed a all ddeillio ohono, gan gynnwys canlyniadau positif anghywir a gweithdrefnau diangen.\r\nFy nod yw helpu i wella canfod canser yn gynnar a sicrhau nad yw menywod iau ledled Cymru yn cael eu hesgeuluso.\r\n\r\nRhy ifanc ar gyfer eu sgrinio, ond digon hen i gael canser.\r\n","state":"open","signature_count":274,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-29T18:52:53.920Z","updated_at":"2026-11-05T03:04:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-04T17:18:30.584Z","closed_at":"2027-05-04T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-29T18:59:30.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-11-04T22:44:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Gemma Buxton","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":242},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":31},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":8},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":135},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":91}],"signatures_by_region":[]}}}