{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247185.json"},"data":{"type":"petition","id":247185,"attributes":{"action":"Sicrhau bod myfyrwyr o Gymru ar gyrsiau dynodedig yn cael cefnogaeth gyfartal ar gyfer ffioedd dysgu a chymorth pontio","background":"Gall myfyrwyr o Gymru ar gyrsiau a ddynodwyd yn benodol gael llai o gymorth ffioedd dysgu na myfyrwyr cymwys mewn mannau eraill yn y DU, sy’n gallu cael gafael ar fenthyciadau i dalu ffi lawn y cwrs. Mae fy mab, Ethan, yn astudio yng Nghampws Busnes Pêl-droed Prifysgol (UCFB) Manceinion. Ar gyfer 2026/27, mae ei fenthyciad ffioedd dysgu Cymru wedi'i gapio ar £6,525, gan adael diffyg blynyddol o £3,265. Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod hwn yn bolisi bwriadol ac nad oes ganddi gynlluniau ar gyfer adolygiad pellach. Mae hyn yn creu rhwystr ariannol annheg i addysg uwch i fyfyrwyr o Gymru.","additional_details":"Mae Cymru yn siomi myfyrwyr o Gymru gyda system ariannu sy'n eu gadael mewn sefyllfa waeth o filoedd o bunnoedd na myfyrwyr cymwys mewn mannau eraill yn y DU.\r\n\r\nMae UCFB wedi cael dynodiad cwrs penodol trwy Medr, ond mae myfyrwyr o Gymru yn cael benthyciadau ffioedd dysgu is.\r\n\r\nMae gorfodi myfyrwyr i ariannu diffygion mawr yn peri risg o ddigalonni pobl ifanc Cymru a’u hatal rhag mynd i brifysgol. Gallai Cymru golli graddedigion y dyfodol, gweithwyr proffesiynol medrus a thalent y mae dirfawr ei hangen arni.\r\n\r\nRydym yn mynnu adolygiad, cefnogaeth i fyfyrwyr yr effeithir arnynt a chyllid ffioedd dysgu teg i fyfyrwyr o Gymru.\r\n","state":"open","signature_count":11,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-02T12:24:46.168Z","updated_at":"2026-11-13T11:00:30.098Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-13T11:00:30.092Z","closed_at":"2027-05-13T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-02T12:36:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Martin Emery","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":4},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":6},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":2},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}