{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247187.json"},"data":{"type":"petition","id":247187,"attributes":{"action":"Dylid diwygio'r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn rhoi cymorth i berchnogion anifeiliaid anwes agored i niwed yn sgil argyfwng milfeddygol ","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio meini prawf y Gronfa Cymorth Dewisol fel na wrthodir taliadau cymorth mewn argyfwng i unigolion ar incwm isel, unigolion anabl neu unigolion agored i niwed os yw eu hargyfwng ariannol yn deillio o fod angen talu am driniaeth filfeddygol frys i achub bywyd anifail. ","additional_details":"Mae yna bobl agored i niwed sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, salwch meddwl fel anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth neu anableddau, sy’n defnyddio eu harian prin i dalu am ofal milfeddygol brys ac annisgwyl i atal eu hanifeiliaid rhag dioddef. O dan y canllawiau presennol, mae ceisiadau a wneir am gymorth o’r Gronfa o dan yr amgylchiadau hyn yn cael eu gwrthod yn rheolaidd os yw pobl yn onest am eu gwariant. Mae anifeiliaid anwes yn ffynhonnell hanfodol o sicrwydd, ac yn gymorth iechyd meddwl ac adferiad i bobl. Mae gorfodi perchnogion cyfrifol i ddioddef caledi ariannol difrifol, a'u cosbi am atal creulondeb i anifeiliaid, yn achosi trawma, pryder ac ofn aruthrol. Rhaid diweddaru'r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn cydnabod ffioedd milfeddygol brys fel gwariant argyfwng dilys, er mwyn sicrhau bod rhwydi diogelwch yn parhau i fod ar gael i berchnogion anifeiliaid anwes agored i niwed. ","state":"open","signature_count":4,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-03T10:12:02.319Z","updated_at":"2026-11-13T10:46:19.653Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-13T10:46:19.647Z","closed_at":"2027-05-13T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-03T10:23:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Angela Windsor","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"lles-anifeiliaid","name":"Lles Anifeiliaid"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":4}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":2},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":2}],"signatures_by_region":[]}}}