{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247190.json"},"data":{"type":"petition","id":247190,"attributes":{"action":"Amddiffyn ein Merched: Mabwysiadu Polisi Dim Goddefgarwch tuag at Gam-Drin Rhywiol rhwng Cyfoedion","background":"Mae gan Gymru System Goleuadau Traffig Ymddygiad Rhywiol Niweidiol sy'n cael ei defnyddio mewn ysgolion i leihau cam-drin rhywiol rhwng cyfoedion. Mae'r system yn amddiffyn troseddwyr dim ond oherwydd eu hoedran. Er mwyn osgoi atebolrwydd cyfreithiol, mae ysgolion yn aml yn cyfeirio at y digwyddiadau hyn fel \"arbrofi\" neu \"gyffwrdd amhriodol\", ni waeth pa effaith y maent wedi'i chael ar y dioddefwr. Gall poen, ofn a chywilydd y dioddefwr ddinistrio ei fywyd. Dylid mabwysiadu polisi dim goddefgarwch tuag at y digwyddiadau hyn.","additional_details":"Oherwydd rheoliadau sy'n ymwneud â phreifatrwydd a chyfrinachedd, mae llawer o ddioddefwyr a'u teuluoedd yn cael eu tawelu a’u hynysu. Mae troseddwyr yn cael eu hamddiffyn yn rheolaidd, ac mae dioddefwyr yn gorfod parhau i fynychu'r un lleoliadau addysgol â nhw. \r\n\r\nO dan y polisi, rhaid i gam-drin rhywiol ddigwydd fwy nag unwaith neu ffurfio patrwm cyn y gellir gwahardd rhywun. Fodd bynnag, mae un digwyddiad, un drosedd, yn ddigon i ddifetha bywyd plentyn. Yn Lloegr, mae plant yn cael mwy o amddiffyniad o dan bolisi dim goddefgarwch nag y mae plant yng Nghymru yn ei gael. Mae angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd dioddefwyr, sy'n aml yn gorfod chwilio am ysgol arall neu ddewis addysg ddewisol yn y cartref. Mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi i guddio ac osgoi eu troseddwr, heb unrhyw amddiffyniad. Mae hyn yn parhau'r trawma a'r effeithiau sy'n deillio ohono. Byddai polisi dim goddefgarwch yn cynnig mwy o amddiffyniad i blant ac yn sicrhau bod troseddwyr dan oed yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd. Dylai adsefydlu ddigwydd y tu allan i'r ysgol, a'r troseddwr, nid y dioddefwr, ddylai talu’r pris am yr hyn sydd wedi digwydd.\r\n","state":"open","signature_count":4,"paper_signature_count":0,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-04T12:28:33.619Z","updated_at":"2026-11-17T12:05:46.785Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-17T12:05:46.779Z","closed_at":"2027-05-17T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-04T15:41:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Hannah Howell","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":4}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":3},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}