{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247197.json"},"data":{"type":"petition","id":247197,"attributes":{"action":"Dylid ystyried newid oriau ysgol i gyd-fynd yn well â datblygiad ymennydd pobl ifanc\r\n","background":"Rwy’n gofyn am hyn gan fy mod yn credu y byddai o fudd i addysg yng Nghyfnod Allweddol 3 (yr ysgol uwchradd) i wneud amseroedd dechrau a gorffen yr ysgol yn hwyrach yn y dydd. Byddai hyn yn helpu pobl ifanc i gael rhagor o gwsg yn y bore ac ni fyddai cymaint o frys gwyllt i gyrraedd yr ysgol mewn pryd. Gellid cyflawni hyn drwy symud amser dechrau yr ysgol 30 munud ymlaen a'r amser gorffen 30 munud ymlaen. Er enghraifft, ar gyfer ysgolion sy'n dechrau am 8.30 y bore ar hyn o bryd, byddent yn dechrau am 9 y bore ac yn gorffen am 3.40 y prynhawn (yn hytrach na 3.10).","additional_details":"Rwy'n credu y byddai hyn o fudd mawr i addysg gan ei fod wedi'i brofi'n wyddonol bod amseriad cyrff pobl ifanc ddwyawr ar ei hôl hi, a dyna pam mae pobl ifanc yn tueddu i aros ar eu traed yn hwyrach gyda’r nos, ac i gysgu'n hwyrach yn y bore. Mae ymchwil wedi dangos bod ymennydd pobl ifanc yn llai effro a sylwgar tua 8-9 o'r gloch y bore. Mae hyn oherwydd, i berson ifanc yn ei arddegau mae bod yn effro am 9 o'r gloch y bore yn cyfateb i fod yn effro am 7 o'r gloch. Mae eu hymennydd yn fwy chwim tua hanner dydd neu yn y prynhawn. \r\n\r\nOs bydd y ddeiseb hon yn cael digon o lofnodion, gallai ddenu sylw Senedd Cymru, a allai wireddu'r syniad hwn. Byddai'n arwain at fod pobl ifanc yn cael rhagor o orffwys, bod eu gweithrediad gwybyddol yn well a bod llai o straen i gyrraedd yr ysgol mewn pryd. \r\n\r\nRydw i'n credu, os bydd pawb yn dod at ei gilydd y gallwn ni gyflawni pethau gwych! Cefnogwch hyn!\r\n","state":"open","signature_count":11,"paper_signature_count":0,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-11T18:29:35.561Z","updated_at":"2026-11-17T12:33:30.475Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-17T12:33:30.470Z","closed_at":"2027-05-17T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-11T19:05:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Morgan Evans","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":8},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":7}],"signatures_by_region":[]}}}