{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247198.json"},"data":{"type":"petition","id":247198,"attributes":{"action":"Dylid adolygu'r rheolau sy’n ymwneud ag atal Aelodau etholedig rhag siarad yn y Senedd","background":"Gofynnodd Joe Martin AS gwestiwn am newid demograffig, cyfraddau geni a rhagfynegiad y gallai pobl wyn Prydeinig fod yn lleiafrif erbyn y flwyddyn 2063. Gwnaeth y Llywydd ddyfarnu bod ei sylwadau’n wahaniaethol a’i wahardd rhag siarad yn y Siambr nes iddo ymddiheuro. Mae hyn yn codi pryderon ynghylch achos posibl o gamddefnyddio awdurdod i fygu dadl gyfreithlon, gan adael etholwyr heb lais. Pa fesurau diogelu sy’n bodoli i atal pwerau o’r fath rhag cael eu camddefnyddio?\r\n","additional_details":"Rydym yn galw ar y Senedd i adolygu Rheol Sefydlog 13.9 a'r pŵer i atal Aelodau etholedig rhag siarad.\r\n\r\nYn dilyn y penderfyniad ar 10 Tachwedd 2026 i atal Joe Martin AS rhag siarad yn y Siambr nes iddo ymddiheuro, mae pryderon wedi’u codi ynghylch achosion posibl o gamddefnyddio pŵer i fygu dadl a gadael etholwyr heb lais.\r\n\r\nMae cynnal trafodaethau parchus a gwarchod pobl rhag gwahaniaethu yn bwysig. Ond rhaid sicrhau bod cwestiynau dadleuol ynghylch mewnfudo, newid demograffig a pholisi cyhoeddus yn parhau i fod yn destun gwaith craffu democrataidd.\r\n\r\nGofynnwn i'r Senedd sefydlu meini prawf clir, cymesur a thryloyw o ran cyfyngu ar yr hawl i siarad, ynghyd â phroses adolygu annibynnol a mesurau diogelu i sicrhau nad yw awdurdod y Llywydd yn cael ei gamddefnyddio.\r\n\r\nNi ddylid defnyddio safonau seneddol i dawelu cynrychiolwyr etholedig na mygu trafodaethau ynghylch pryderon cyhoeddus dilys.\r\n","state":"open","signature_count":6,"paper_signature_count":0,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-11T19:26:49.172Z","updated_at":"2026-11-19T16:00:02.489Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-19T16:00:02.469Z","closed_at":"2027-05-19T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-11T21:06:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Kalvin Bird","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cyfansoddiad","name":"Cyfansoddiad"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":6}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":4},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}