{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247202.json"},"data":{"type":"petition","id":247202,"attributes":{"action":"Gwrthdroi’r cynnydd yn yr Isafbris Uned o 65c ar gyfer alcohol ac adolygu effeithiolrwydd y polisi","background":"Ar 1 Hydref 2026, cododd isafbris uned alcohol yng Nghymru o 50c i 65c yr uned – cynnydd o 30%. Nid oes gan Loegr isafbris uned, sy’n creu bylchau mawr o ran pris ac sy'n taro aelwydydd Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw. Yn ôl gwerthusiadau Llywodraeth Cymru, roedd y polisi gwreiddiol o 50c wedi cynyddu'r straen ariannol ar yfwyr incwm isel (rhai’n mynd heb fwyd neu ddim yn talu biliau) tra bod marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yn dal i godi i’r lefelau uchaf erioed. Rydym yn gofyn am i'r cynnydd gael ei wrthdroi ac i adolygu effaith wirioneddol y polisi.\r\n\r\n\r\n","additional_details":"Tystiolaeth gyfyngedig o lwyddiant: Yn ôl gwaith gwerthuso Llywodraeth Cymru yn 2025, dim ond gostyngiadau cymedrol a welwyd yn y cynnyrch cryfder uchel rhataf. Roedd newidiadau ar y cyfan o ran yfed i'r rhan fwyaf o yfwyr yn gyfyngedig, ac roedd y gwerthusiad yn cael ei gymhlethu gan COVID, chwyddiant ac argyfwng costau byw. Rhagamcanion yw’r manteision sydd wedi'u modelu (~900 yn llai o farwolaethau dros 20 mlynedd), ac nid canlyniadau a welwyd o'r cyfnod a gwmpesir gan y gwerthusiadau.\r\n\r\nCostau:  Mae cymariaethau prisiau yn y cyfryngau yn dangos bylchau mawr gyda Lloegr (e.e. pecyn o 18 Stella £23.69 yng Nglannau Dyfrdwy o gymharu â £11.99 yng Nghaer; basged Nadoligaidd ~£35 yn fwy yng Nglannau Dyfrdwy). Roedd y gwerthusiadau yn nodi straen ariannol ar yfwyr incwm isel, gyda rhai’n mynd heb fwyd neu ddim yn talu biliau. Mae siopa ochr arall y ffin yn golygu bod gwariant yn mynd o economi Cymru.\r\n\r\nTystiolaeth o fethiant: Cyrhaeddodd marwolaethau sy’n ymwneud yn benodol ag alcohol y nifer uchaf erioed o 562 yn 2023 ar ôl i'r isafbris uned ddechrau yn 2020. Yn 2024 roedd y gyfradd yn dal yn uwch yng Nghymru (16.8 fesul 100k) nag yn Lloegr (13.8). Dylid gwrthdroi’r cynnydd o 65c tra’n disgwyl adolygiad clir o’r canlyniadau gwirioneddol.\r\n","state":"open","signature_count":8,"paper_signature_count":0,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-13T15:21:41.616Z","updated_at":"2026-11-24T11:25:40.303Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-24T11:25:40.296Z","closed_at":"2027-05-24T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-13T15:53:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Gareth Rees","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"economi-a-chyllid","name":"Busnes, Economi a Chyllid"},{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":4},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":4}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":2},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}