{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247206.json"},"data":{"type":"petition","id":247206,"attributes":{"action":"Rhoi angen blaenoriaethol am dai diogel i oroeswyr trais rhywiol nawr (Cyfraith Anne-Marie)","background":"Yng Nghymru, mae gan rywun sydd wedi’i wneud yn ddigartref oherwydd cam-drin domestig angen blaenoriaethol awtomatig am dai. Nid yw person na all aros gartref yn ddiogel ar ôl trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol gan rywun nad yw'n bartner nac yn aelod o'r teulu yn cael blaenoriaeth. Bydd Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 yn dileu angen blaenoriaethol i bawb, ond o bosibl nid tan 2030-31. Ni all goroeswyr aros. Mae adran 72 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 eisoes yn caniatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu grŵp angen blaenoriaethol newydd nawr, fel y gwnaethant ar gyfer pobl ddigartref ar y stryd yn 2022.","additional_details":"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:\r\n1. Gwneud gorchymyn o dan adran 72 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ychwanegu pobl na allant aros gartref yn ddiogel ar ôl trais rhywiol fel grŵp angen blaenoriaethol.\r\n2. Sicrhau y gall cynghorau gynnig llety diogel ar yr un diwrnod y mae goroeswr yn gadael Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol.\r\nMae Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw am yr angen blaenoriaethol i gwmpasu pob goroeswr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, nid cam-drin domestig yn unig.\r\nMae Cyfraith Anne-Marie yn cael ei harwain gan Anne-Marie Worsley-Bond, Sylfaenydd Justice Warriors, sefydliad sy'n canolbwyntio ar oroeswyr yn Abertawe.\r\n","state":"open","signature_count":21,"paper_signature_count":0,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-17T17:44:00.748Z","updated_at":"2026-11-20T18:17:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-20T16:03:30.532Z","closed_at":"2027-05-20T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-17T17:50:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Anne-Marie Worsley-Bond","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cymunedau-a-tai","name":"Cymunedau a Tai"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":19},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":1},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":5},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":1},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":11},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":2}],"signatures_by_region":[]}}}